Cyfarfodydd Zoom
Dewis Iaith Mewn Cyfarfodydd Zoom Gyda Cyfieithu Ar Y Pryd
Os ydych yn ymuno â’r cyfarfod oddi ar liniadur / cyfrifiadur, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Pan fydd pawb wedi cyrraedd y cyfarfod, a phan fydd y cyfieithydd wedi’i osod ar y system, byddwch yn cael hysbysiad ar eich sgrin i ddewis pa iaith.
(Sylwch, os ydych yn cyrraedd yn hwyr, mae angen i chi glicio ar y llun o’r byd ar waelod y sgrin er mwyn dewis eich iaith)
Mae 2 opsiwn o ran iaith, dewiswch un o’r isod: (English neu German)
1. Os ydych chi’n deall Cymraeg, AC yn bwriadu siarad Cymraeg yn y cyfarfod, mae angen i chi ddewis GERMAN fel iaith. (Yn anffodus, nid yw Cymraeg/baner Cymru yn un o’r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd ar Zoom).
2. Os NAD ydych chi’n deall Cymraeg, ac felly angen defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os bydd rhywun arall yn siarad Cymraeg mae angen i chi ddewis ENGLISH fel iaith.
Os ydych yn ymuno â’r cyfarfod oddi ar ffôn / lechan (tablet), dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Pan fydd pawb wedi cyrraedd y cyfarfod, a phan fydd y cyfieithydd wedi’i osod ar y system, byddwch yn cael hysbysiad ar eich sgrin i ddewis pa iaith.
(Sylwch, os ydych yn cyrraedd yn hwyr, mae angen i chi glicio ar y tri dotyn yn nhop ochr dde’r sgrin, ac wedyn clicio ar er mwyn dewis eich iaith)
Mae 2 opsiwn o ran iaith, dewiswch un o’r isod: (English neu German)
1. Os ydych chi’n deall Cymraeg, AC yn bwriadu siarad Cymraeg yn y cyfarfod, mae angen i chi ddewis GERMAN fel iaith. (Yn anffodus, nid yw Cymraeg/baner Cymru yn un o’r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd).
2. Os NAD ydych chi’n deall Cymraeg, ac felly angen defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os bydd rhywun arall yn siarad Cymraeg mae angen i chi ddewis ENGLISH fel iaith.