Datganiadau i'r Wasg 2020
5,000 o goed i ddathlu pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 oed!
29 Tachwedd 2021
 hithau’n Wythnos Genedlaethol Coed, pa ffordd well o ddathlu’r achlysur na dechrau ar brosiect uchelgeisiol o blannu 5,000 o goed ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri?
26 Tachwedd 2021
Mae hi’n flwyddyn i’r diwrnod ers lansio cynllun hynod lwyddiannus Llysgennad Eryri. Cynllun sydd wedi cyfoethogi deallusrwydd y diwydiant twristiaeth leol am yr hyn sy’n gwneud Eryri’n arbennig.
Gwybodaeth am amodau dan draed ar Yr Wyddfa ar flaen eich bysedd!
18 Tachwedd 2021
Yr wythnos hon bydd y gwasanaeth blynyddol o adrodd ar amodau dan draed ar Yr Wyddfa yn cychwyn, diolch i gynllun a gydlynir ac a ariennir gan Wasanaeth Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
14 Hydref 2021
Yn ystod hanner tymor yr Hydref, mi fydd gennym ni wledd yn eich disgwyl yn yr Ysgwrn, beth bynnag fo’ch oed.
Dewch yn Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
29 Medi 2021
Helpwch i ddiogelu a gwella un o hoff dirweddau Cymru fel Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Dathliad celfyddydol Eryri’n 70
28 Medi 2021
Mae Eryri wedi ysbrydoli artistiaid o bob math ers cenedlaethau drwy ysgogi cwestiynau, darganfod a meddwl am y gorffennol, y presennol a dyfodol y Parc.
Digwyddiadau cyffrous ar y gweill i ddathlu pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 oed!
20 Medi 2021
Yn greigiau geirwon ucheldirol, rhostiroedd tawel diarffordd a cheunentydd llaith gwyrddion yn agor allan i ehangder aberoedd euraidd - mae gan Eryri'r cyfan. Ar Hydref y 18fed, bydd yr ardal arbennig hon yn dathlu 70 mlynedd ers ei dynodi’n Barc Cenedlaethol, ac er mwyn nodi’r achlysur arbennig mae Awdurdod y Parc wedi paratoi rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol.
CGG ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn Nodi Llygredd Micro-plastig Sylweddol ar Gopa'r Wyddfa
23 Awst 2021
Mae CGG wedi cynnal arolwg ar lygredd micro-plastigion yn llwyddiannus fel rhan o astudiaeth gwmpasu i weld a fyddai'n bosibl creu parth Di-Blastig ar Yr Wyddfa.
18 Awst 2021
Yr Hydref hwn mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Choed Cadw yn dod ynghyd i weithredu prosiect newydd arbennig sydd â’r nod o blannu coed a gwrychoedd o fewn ardal ddynodedig yn y Parc Cenedlaethol.
Cronfa Gymunedol Eryri – Cyfle Ariannu Newydd
16 Awst 2021
Ydych chi'n Gyngor Cymuned neu'n fenter gymdeithasol yn Eryri neu'r ardal gyfagos? A oes gennych gynlluniau sy'n gofyn am gyllid sy'n cynnwys naill ai Datgarboneiddio, Twristiaeth neu Adfer Covid?
9 Awst 2021
 ninnau bron hanner ffordd trwy wyliau’r haf, mae ymdrechion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i bartneriaid i annog a hwyluso ymweliad cynaliadwy â’r ardal yn parhau.
Oriel o hen luniau i ddathlu 70 mlynedd o Eryri!
8 Gorffennaf 2021
Yr hydref hwn bydd Eryri’n dathlu 70 mlynedd ers ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol, ac er mwyn nodi’r achlysur mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi lansio oriel ddigidol o hen ffotograffau.
14 Mehefin 2021
Cyflwynodd Elfed Wyn ap Elwyn ddeiseb gyda dros 5,000 o enwau gan lofnodwyr o ar draws y byd i Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw.
Gerald Williams, Yr Ysgwrn (1929-2021)
11 Mehefin 2021
Bu farw’r amaethwr a cheidwad Yr Ysgwrn, Mr Gerald Williams, ar Fehefin yr 11eg 2021.
Dyfodol disglair i Gomin Uwch Gwyrfai
2 Mehefin 2021
Adfer terfynau traddodiadol, cynnal a chadw llwybrau, gwaith celf murlun - dyma ond ychydig o’r buddion ddaeth i gymuned Comin Uwch Gwyrfai dros y ddwy flynedd diwethaf yn sgil prosiect Cysylltu Comin a Chymunedau Uwch Gwyrfai.
Cystadleuaeth! Cyfle i enill print o'r Wyddfa
31 Mai 2021
Ydych chi eisiau cyfle enill darn o waith celf o'r Wyddfa a Chrib Goch gan Lisa Eurgain Taylor?
27 Mai 2021
Mae’r cynlluniau wedi eu datblygu er mwyn mynd i’r afael a phroblemau parcio, sbwriel a champio anghyfreithlon.
17 Mai 2021
Prosiect adfer mawndir ym Mwlch y Groes ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru i gael ei gwblhau gydag arian a godwyd trwy werthu carbon, yn dilyn dilysiad gan y Côd Mawndiroedd.
13 Mai 2021
Cân a fideo cerddorol Yr Ochr Draw yw penllanw prosiect creadigol digidol Yr Ysgwrn a chymuned Trawsfynydd. Yn ystod y cyfnod clo diwethaf bu criw o bobl ifanc a phlant Ysgol Bro Hedd Wyn yn cydweithio gydag amrywiol artistiaid dros Zoom a Meet i greu cân a fideo cerddorol.
7 Mai 2021
Yr haf diwethaf, gydag effaith pandemig Cofid-19 yn rhoi cynnydd anferthol mewn gwyliau gartref, gwelwyd niferoedd uwch nag erioed o ymwelwyr ar draws atyniadau twristiaeth Prydain. Roedd hyn yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Achosodd y don o ymwelwyr broblemau parcio a gorboblogaeth, yn enwedig ym mhrif faes parcio Pen y Pass.
Ail-doi tradoddiadol Y Sosban yn cipio gwobr genedlaethol
6 Mawrth 2021
Mae gwaith adnewyddu tô 17eg ganrif ar adeilad y Sosban yn Nolgellau wedi cipio gwobr genedlaethol am ei rhinweddau traddodiadol prin gan ddefnyddio Llechi Cymru.
1 Chwefror 2021
Mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn ymgynghori ar ei strategaeth ddrafft i wella mynediad a chysylltedd yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda chymorth Trafnidiaeth i Gymru. Mae'n gwahodd cymunedau a rhanddeiliaid lleol i helpu i lunio'r strategaeth ac atebion posibl i fynd i'r afael â materion parcio ac annog dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Awdurdodau yn dod ynghyd unwaith eto i gau meysydd parcio Eryri
7 Ionawr 2021
Wrth i’r pandemig gyrraedd y nifer uchaf eto o heintiau ac amrywiaeth o’r feirws yn lledaenu mor gyflym mae Awdurdodau eisiau pwysleisio osgoi teithio yn ddiangen.