Ffeithiau a Ffigyrau
Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri yn 1951, a dyma'r trydydd parc mwyaf o'r 15 yn y DU. Mae'r Parc yn ymestyn dros 2,132 km sgwâr (823 milltir sgwâr) ac yn ymestyn o linell y penllanw ym Mae Ceredigion yn y gorllewin, hyd Ddyffryn Conwy yn y dwyrain ac o'r Afon Dyfi a'i haber yn y de, i arfordir Bae Conwy cyn belled â Chonwy yn y gogledd.
Ym Mharc Cenedlaethol Eryri saif yr Wyddfa sydd yn 1085m (3,560 troedfedd). Dyma'r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr. Yr hen enw ar y mynydd oedd Yr Wyddfa Fawr, sef carnedd gladdu neu orsedd fawr, enw arall arno oedd Carnedd y Cawr. Heddiw Yr Wyddfa yw ei enw, ond mae'r amrywiol enwau yn dyst i hen chwedloniaeth y tir, ei hanes a'i draddodiad. Dyma deyrnas hynafol Gwynedd, calon Cymru a chadarnle'r iaith Gymraeg ac mae ei pharhad yn yr ardal hon yn dyst i gryfder a natur ddigyfnewid Eryri.
Poblogaeth (Cyfrifiad 2011)
58.6% o boblogaeth Eryri yn siarad Cymraeg.
Poblogaeth Cyfanswm - 25,702
- Gwrywod - 49.8%
- Benywod - 50.2%
Strwythur Oedran
- Oed 0 i 17 - 4,408, 17.2%
- Oed 18 i 29 - 2,792, 10.8%
- Oed 30 i 59 - 9,663, 37.6%
- Oed throsodd 60 - 8,839, 34.3%
- Oedran cymedrig - 46
- Oedran canolrif - 49
Cartrefi (Cyfrifiad 2011)
14% o dai Eryri yn dai haf.
Number of Dwellings - 15,280
- Tŷ neu fyngalo cyfan (Ar wahân) - 7,021 45.9%
- Tŷ neu fyngalo cyfan (Semi) - 3,192 20.9%
- Tŷ neu fyngalo cyfan - (Teras gan gynnwys ar y pen) - 3,720 24.3%
- Fflat neu maisonette (bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol) - 533 3.5%
- Fflat neu maisonette (rhan o dŷ wedi'i addasu neu dŷ sy'n cael ei rannu gan gynnwys fflatiau un ystafell) - 321 2.1%
- Fflat neu maisonette (Mewn adeilad masnachol) - 178 1.2%
- Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro - 330 2.2%
Visitors - Recreation
Mae oddeutu 10 miliwn o ddyddiau ymweld yn cael eu treulio yn Eryri bob blwyddyn.
Mae yna 1,497 milltir o lwybrau cyhoeddus yn Eryri.
Mae yna 1,497 milltir o lwybrau cyhoeddus yn Eryri. Rhowch nhw i gyd at eu gilydd a byddai'n bosib gyrru ar hyd lonydd troellog i'r Bari, Yr Eidal neu fel hed y fran, ffiniau gorllewinol Rwsia.
Environment
Size - 2,132 square km (823 square miles)
Talest Mountain - Snowdon (Yr Wyddfa) 1085m 3,560ft
Number of Mountains over 2,000 - 93
Number of Mountains over 3,000 - 15
Llynnoedd - Mae yna ymhell dros gant o lynnoedd sy’n fwy nag acer yn Eryri, yn amrywio o Lyn Ogwen yn y Gogledd i Dal y Llyn yn y De.