APCE
Rydych chi yma: Hafan > Gwarchod > Garddio Bywyd Gwyllt

Garddio Bywyd Gwyllt

Sefydlwyd Prosiect Garddio Bywyd Gwyllt Eryri er mwyn cyfoethogi Bioamrywiaeth y gerddi ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Gwynedd a Chonwy. Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri sy’n gyfrifol am reoli’r project, ac mae amrediad eang o sefydliadau o’r sectorau statudol, gwirfoddol, academaidd a phreifat yn cyfrannu at y gwaith sy’n cael ei wneud.


Garddio Bywyd Gwyllt


Mae’r Bartneriaeth yn hybu dulliau cyfeillgar o arddio sy’n rhoi ystyriaeth i fywyd gwyllt, a hynny trwy lunio pecynnau gwybodaeth sydd ar gael yn rhad ac am ddim a thrwy gynnal sgyrsiau difyr.

Rydym hefyd yn gweithio gyda chymunedau lleol i helpu ysgolion a grwpiau eraill greu gerddi sy’n denu bywyd gwyllt yn ogystal â phobl.

Mae’r prosiect hwn yn rhoi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer Gerddi yn y Parc Cenedlaethol a gweddill Gwynedd ar waith.

Logo Cynllun Garddio Bywyd Gwyllt Eryri
Cynllun Garddio Bywyd Gwyllt Eryri
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk