SNPA Print Header
Rydych chi yma: Ymweld > Cerdded >Llwybrau'r Wyddfa

Llwybrau'r Wyddfa

Yn 1085 metr o uchder, yr Wyddfa yw’r mynydd uchaf yng Nghymru (a Lloegr), ac mae ei harddwch yn teyrnasu dros y bryniau o’i gwmpas. O’i gopa, ar ddiwrnod clir, cewch weld mynyddoedd cadarn Eryri, Ynys Môn, arfordir Sir Benfro, ac Iwerddon.

Os ydych eisiau cerdded un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa mae’r llwybrau hyn yn gallu bod yn heriol mewn mannau. Gall y tirwedd mynyddig fod yn sialens gyda llethrau diffwys, llwybrau creigiog a’r angen am ddringo mewn rhai mannau. Rhaid cymryd gofal eithriadol wrth gerdded y llwybrau yma yn ystod tywydd gaeafol gan fod cyflwr y llwybr dan droed yn gallu bod yn beryglus iawn. Ni ddylai cerddwyr di-brofiad ymgeisio’r llwybrau yn ystod tywydd o’r fath. Dylai cerddwyr fod yn wyliadwrus o sgri rydd a llethrau. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas cyn mynd allan ar y mynydd gan edrych ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn eich taith. Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd

Er mwyn gweld manylion y teithiau, cliciwch ar un o'r symbolau.

Llwybr Llanberis
Diogelwch ar y Mynydd

Parchwch yr Amgylchedd!
Os ydych yn mynd i gerdded,
ewch â’ch sbwriel adre hefo
chi gan gynnwys
gweddillion
ffrwythau
a stwmpiau
sigaréts.

Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk