
Beth sy'n arbennig am y llwybr hwn?
Mae Cwm Idwal yn gyrchfan boblogaidd iawn i gerddwyr, dringwyr, pysgotwyr a daearegwyr. Mae Llyn Idwal yn 800 medr o hyd ac yn 300 medr o led ac yn gorwedd yng nghysgod y Twll Du. Crëwyd y Cwm gan rew filoedd o flynyddoedd yn ôl ac mae’n un o’r enghreifftiau gorau o gwm rhewlifol yng Nghymru.
Pwy oedd Idwal? - Yn y 12G, penderfynodd Owain, Tywysog Gwynedd, mai Nefydd Hardd ddylai fod yn gyfrifol am ei fab Idwal. Roedd Nefydd yn genfigennus o Idwal gan ei fod yn fachgen galluog ac nid oedd ei fab ef ei hun, Dunawd, yn gallu cystadlu gydag ef. Penderfynodd Dunawd wthio Idwal i’r llyn a’i foddi. Alltudiwyd Nefydd o Wynedd gan Owain a rhoddodd yr enw Idwal ar y llyn er cof am ei fab. Dywedir na welir aderyn yn hedfan uwchben wyneb y llyn a phan fydd storm yn y cwm, fe glywir wylo.
Partneriaeth Llwybrau Ucheldir Eryri - Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn cydweithio, gyda chymorth arian Ewropeaidd Amcan 1, er mwyn gofalu am y llwybrau a sicrhau bod ymwelwyr yn gadael cyn lleied o’u hôl â phosibl. Cofnodir nifer yr ymwelwyr er mwyn sicrhau fod yr erydiad yn cael ei fonitro a bod y gwaith cynnal a chadw mwyaf yn cael ei wneud yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd.
Y Llwybr
1. O’r maes parcio, cadwch i’r chwith heibio Canolfan y Warden a’r Ystafell Wybodaeth gan ddilyn y llwybr i fyny tuag at y giât haearn. Dyluniwyd y giât hon gan Joe Roberts, Warden Tymhorol gyda’r Parc Cenedlaethol, fel teyrnged i Evan Roberts, Warden cyntaf Cwm Idwal a benodwyd i’r swydd ym 1953. Dylan Parry oedd y gof a fu’n gyfrifol am greu’r giât a thrwy gyffwrdd y rhan uchaf, fe gewch syniad o’r tirlun o gwmpas Twll Du tra bod y rheiliau oddi tano yn cyfleu daeareg ac adlewyrchiad y marianau yn Llyn Idwal.
2. Dilynwch y llwybr a mwynhewch yr olygfa ysblennydd o gopa mynyddoedd a chribau miniog wrth i chi wneud eich ffordd tuag at Lyn Idwal. Wrth i chi edrych i’r dwyrain tuag at Tryfan, a welwch chi broffil wyneb ar grib y mynydd? Dywed rhai mai proffil dyn neolithig ydyw, dywed eraill mai pennaeth llwyth Americanwyr brodorol sydd yma tra bod y rhai ieuengaf yn eich plith efallai yn gweld Homer Simpson.
3. Erbyn i’r llwybr wastatau, edrychwch i’r gorllewin er mwyn mwynhau’r olygfa o Nant Ffrancon a phentref chwarelyddol Bethesda yn y pellter. I'r dwyrain mae modd gweld Nant y Benglog a Llyn Ogwen.
4. Dilynwch y llwybr amlwg i’r chwith er mwyn cychwyn ar eich taith o gwmpas y llyn. Mae 350,000 o bobl yn ymweld â Dyffryn Ogwen bob blwyddyn ac mae’n bwysig rheoli’r ardal er mwyn ei ddiogelu ac atal erydiad.
5. Wrth i chi gyrraedd y giât fechan, edrychwch draw dros y llyn ar y pentwr o dwmpathau hirgrwn. Yn ôl y chwedl, beddau Idwal a’i weision yw’r marianau hyn. Mewn gwirionedd, gwaddodion ydynt a adawyd ar ôl wedi i’r rhewlifoedd gilio.
6. Mae’r llwybr yn esgyn wrth i chi nesáu at ben uchaf y llyn. Yr enw ar y cerrig anferth ar y chwith i chi sy’n gorwedd ar ongl o 50° yw’r Rhiwiau Caws adnabyddus. Fe’u dringwyd gyntaf ym 1897 gan Rose a Moss ac fe’u hystyrir bellach yn lle da i ddysgu dringo.
7. Dilynwch y llwybr gan esgyn y grisiau serth a chroesi’r sgri i gyfeiriad Twll Du. Mae angen croesi rhaeadr fechan mewn un man yma. Cymerwch ofal yn enwedig os bydd y tywydd yn rhewllyd oherwydd fe all y cerrig fod yn hynod o lithrig. Ar ôl dringo’r grisiau cerrig, fe fyddwch yng nghanol y creigiau anferth ger Twll Du, creigiau a lusgwyd oddi ar y clogwyn gan y rhewlif.
8. Dilynwch y grisiau cerrig i lawr at ochr arall y llyn. Welwch chi’r darnau o dir wedi’u ffensio ar y lan ogleddol? Mae arbrawf wedi cael ei gynnal yma ers 1957 er mwyn gweld pa blanhigion sy’n gallu goroesi orau pan nad oes pori ar y tir. Welwch chi unrhyw ddefaid neu wartheg yn pori yng Nghwm Idwal? Bellach, oherwydd cytundeb rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Cefn Gwlad Cymru does dim anifeiliaid yn cael pori yn y Cwm oherwydd bod yma astudiaeth tymor hir mewn creu llystyfiant mwy ‘naturiol’.
9. Mae’r llwybr yn dirwyn i lawr at lan y llyn ac fe allwch ei ddilyn yr holl ffordd yn ôl at y bont. O’r bont dilynwch y llwybr yn ôl i lawr i’r maes parcio.