
Beth sy'n arbennig am y llwybr hwn?
Ar y llwybr hwn, gallwch fwynhau golygfeydd trawiadol o aber yr afon Mawddach oddi ar un o lwybrau uchaf Cymru sy’n addas i gadeiriau olwyn. Mae tua 300 metr o lwybr addas i gadeiriau olwyn. Mae’r llwybr cyhoeddus yn cario ymlaen o’r man lle daw’r llwybr hygyrch i ben ond nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Sut i gyrraedd yno?
Ar yr A496 o Ddolgellau i Abermaw trowch i'r dde i gyfeiriad Taicynhaeaf pan ddowch at groesffordd (mae'r drofa i'r chwith yn mynd â chi dros Bont Llynpenmaen). Gyrrwch i fyny'r ffordd gul a throwch i'r dde pan fydd y ffordd yn fforchio. (Y côd post agosaf yw LL40 2TU - yna cadwch i’r dde pan fydd y ffordd yn fforchio). Mae rhannau o’r ffordd o’r briffordd at Foel Ispri yn hynod o gul gyda rhai ochrau serth. Does dim llawer o fannau pasio arni, felly byddwch angen bod yn yrrwr digon hyderus i yrru am yn ôl ar hyd ffordd gyfyng iawn pe byddai angen.