
Mae Eryri yn le gwych i ddod i gerdded ac mae gennym rwydwaith o lwybrau ar gyfer pobl o bob gallu. P'un a’i esgyn i ucheldiroedd Yr Wyddfa yw eich uchelgais neu gerdded ar un o lwybrau hamddenol yr arfordir, rydych yn siwr o gael golygfeydd godidog a thirlun amrywiol. Mae’r tirlun ei hun yn amrywio o fynyddoedd garw, traethau tywynnog hir i lynnoedd ac afonydd clir. Mae’r Parc Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer cerddwyr o bob gallu.
Er mwyn gweld manylion y llwybrau sy'n cael eu hyrwyddo ar ein gwefan, cliciwch ar un o'r marcwyr ar y map isod, neu defnyddiwch y dolenni ar y chwith.
Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd dewis eich taith perffaith er mwyn i chi gael y gorau o’ch amser yn Eryri. Fe welwch isod grynodeb byr o’n categorïau cerdded.
Mae ein rhwydwaith o Lwybrau Mynydd Anodd yn cynnwys y chwe llwybr i fyny’r Wyddfa ac mae golygfeydd mawreddog i’w cael wrth i chi esgyn tua’r copa gan gyrraedd 1,085m uwch lefel y môr. Mae’r llwybrau heriol yma werth yr ymdrech a cewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd ymledol gan weld cyn belled ac Ardal y Llynnoedd ar ddiwrnod clir. Mae’n bosib hefyd cerdded y tri llwybr i fyny Cader Idris yn rhan ddeheuol Eryri.
Os ydych yn chwilio am rywbeth llai heriol na llwybrau’r Wyddfa, yna mae ein rhwydwaith o Lwybrau Hamdden Anodd yn cynnig golygfeydd gwych trwy fryniau Eryri. Mae’r rhwydwaith yma yn cynnwys taith odidog Clogau sy’n esgyn i’r bryniau uwchben Bontddu gan basio hen chwarel aur Clogau.
Os mai taith hamddenol i’r holl deulu fydd orau gennych yna ewch ar hyd ein rhwydwaith o Lwybrau Hamdden Canolig neu brofi ein Llwybrau Hamdden Hawdd. O deithiau cylchol i lwybrau gwastad, mae gennym arlwy ar gyfer eich anghenion yma. Medrwch dreulio ychydig oriau yn cerdded neu ei gwneud hi’n ddiwrnod cyfan. Cewch ddigon o amser i deithio Eryri gyda’r llwybrau yma.
Pan mae hygyrchedd a pellter yn hanfodol mae’r rhwydwaith o Lwybrau Hygyrch wedi ei dylunio gyda cadeiriau olwyn a chadeiriau plant mewn golwg. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys Llwybr Mawddach a Llwybr Ianws ger Llyn Cwellyn. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig cyfleusterau gerllaw.
Os oes gennych ddiddordeb mewn archaeoleg mae rhwydwaith o lwybrau yma sy’n eich arwain heibio rhai o brif safleoedd archaeoleg yr ardal. Mae’r Llwybrau Archaeolegol yn deithiau hamdden sy’n cynnig golygfeydd gwych o dirlun Eryri ynghyd â rhoi blas o’r hanes archaeolegol cyfoethog sydd yma.
Teithiau Llafar
Ewch am dro ar hyd Taith Lafar Bwrlwm Eryri o Lanycil i Lanuwchllyn gan ddysgu am y chwedlau anhygoel a llên gwerin yr ardal tra'n rhyfeddu ar y golygfeydd trawiadol
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr cerdded pell sy'n mynd o Gaer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de: pellter o 870 milltir (1400km). Mae gan Ogledd Cymru hefyd Lwybr y Gogledd sy'n mynd am 60 milltir (96km) o Fangor yn y gorllewin i Brestatyn yn y dwyrain. Mae Taith Ardudwy yn lwybr ucheldirol 24 milltir sy’n mynd o dde Abermaw i ogledd Llandecwyn. Am fwy o wybodaeth am y llwybrau hyn a llwybrau cerdded gan sefydliadau eraill, cliciwch yma.
Dilynwch y Côd Cefn Gwlad ar bob achlysur ac edrychwch ar ôl y rhan arbennig hwn o'r byd.
Parchwch yr Amgylchedd!
Os ydych yn mynd i gerdded,
ewch â’ch sbwriel adre hefo
chi gan gynnwys
gweddillion
ffrwythau
a stwmpiau
sigaréts.