
Dyma ambell awgrym syml i'ch helpu chi i fwynhau eich hun hyd yr eithaf ar fynyddoedd, bryniau, llynnoedd ac afonydd Eryri.
Profiad
Gwnewch yn siwr bod gennych chi a'ch grŵp y profiad sydd ei angen i wneud y weithgaredd. Ystyriwch ffitrwydd, cryfder, oedran ac arbenigedd yn ogystal â'ch gwybodaeth am yr ardal a'r amgylchiadau.
Offer
Gall cario'r offer cywir wneud unrhyw weithgaredd yn fwy pleserus a'i gwneud hi'n llai tebygol i chi gael damwain neu anaf.
Cofiwch sicrhau bod gennych chi ddillad sy'n dal dŵr a haenau cynnes ychwanegol, gan gynnwys menig a het. Gwisgwch 'sgidiau cyfforddus, cadarn gyda gwadn sy'n gafael yn dda. Ewch â bwyd llawn egni, dŵr a chyfarpar cymorth cyntaf gyda chi. Cofiwch fynd â map a chwmpawd, ond yn bwysicach na hynny, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod sut i'w defnyddio.
Amgylchiadau
Gall y tywydd fod yn anodd i'w ragweld felly byddwch yn barod am y gwaethaf a byddwch chi'n siwr o gael amser da. Cofiwch y gall y tymheredd, cryfder y gwynt a'r pellter newid yn sydyn ac weithiau fe all yr amgylchiadau newid yn ddychrynllyd o gyflym. Gwrandewch ar y rhagolygon lleol arbenigol a byddwch yn barod i newid eich trefniadau ar sail hynny.
Cynllunio
Cynlluniwch ar sail gallu'r grŵp, nid dim ond eich gallu chi'ch hun. Manteisiwch cymaint ag y bo modd ar y wybodaeth sydd ar gael i dwristiaid, mewn llyfrau tywys ac ati. Byddwch wastad yn barod i addasu'ch trefniadau os oes angen. Os ydych chi'n mynd â phlant gyda chi, trefnwch daith sy'n golygu ei bod hi'n hawdd ac yn gyflym i chi ddod yn ôl os oes angen. Un peth bach mae llawer o bobol yn anghofio'i wneud yw sôn wrth rhywun ble maen nhw'n mynd a phryd i'w disgwyl nôl. Cofiwch roi gwybod iddyn nhw pan fyddwch chi'n dychwelyd.
Argyfwng
Mewn argyfwng ffoniwch yr heddlu drwy ddeialu 999. Byddan nhw'n cysylltu gyda'r gwasanaeth achub priodol. Rhowch gyfeirnod map os oes modd. Ceisiwch drin unrhyw anaf hyd eithaf eich gallu a gwneud yn siwr bod y sawl sydd wedi brifo mor gynnes a chyfforddus ag y bo modd.

