
Mae gan y Swyddfa Dywydd wasanaeth rhagolygon tywydd 24 awr ar-lein sy'n rhoi manylion eglur am gyflwr y ddaear, gwelededd, cyflymder a chyfeiriad y gwynt, a thymheredd ym mhob rhan o Eryri - nid dim ond ar gyfer y mynyddoedd.
Os ydych yn bwriadu mynd i gerdded yn y Parc Cenedlaethol, ewch ar y we ben bore a chynllunio'ch diwrnod i gyd-fynd â'r rhagolygon.
