SNPA Print Header
Rydych chi yma: Ymweld > Gwybodaeth Leol >Teithio Eryri

Teithio Eryri

Mae yna nifer o ffyrdd o deithio heb ddefnyddio'r car modur, sy'n golygu y gallwch fwynhau Eryri i'r eithaf. Mae Rheilffordd Ffestiniog yn cysylltu'r ddwy brif rheilffordd sy'n dod i'r Parc Cenedlaethol (Rheilffordd Arfordir y Cambrian a'r rheilffordd o Gaer i Gaergybi) ac yn dilyn llwybr o 13 milltir o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog.

Mae rhwydwaith o fysus lleol a rhanbarthol yn cysylltu pentrefi a threfi Eryri â'i gilydd. Cewch gopi o'r amserlenni gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Conwy ac o Ganolfannau Croeso ledled y Parc Cenedlaethol.


Cynlluniwr Teithio
Bydd hwn yn eich cymryd i wefan Traveline Cymru er mwyn arddangos eich cynllun teithio.


Bws Sherpa

Cewch anghofio am orfod gyrru wrth ymlacio a mwynhau golygfeydd a swyn Eryri drwy fanteisio ar wasanaeth bws y Sherpa. Does dim gwahaniaeth os ydych ar arfordir Gogledd Cymru neu yng nghanol y mynyddoedd, y gwasanaeth hwn yw'r ffordd orau i fwynhau diwrnod gwych ym mynyddoedd Eryri. Gall y Sherpa fynd â chi led-led gogledd Eryri gan gysylltu gyda llwybrau cerdded, gweithgareddau gwyliau, ardaloedd o harddwch ac amrywiaeth o gyrchfannau mynydda.

Bws Eryri am bunt!
O hyn ymlaen gallwch deithio ar fysys Sherpa am £1 yn unig fesul siwrne. Mae’r bysys yn rhedeg o Lanberis, Pen-y-Pass, Capel Curig, Betws y Coed, Llyn Ogwen a Bethesda, sef teithiau S1, S2 ac S6.

Tocyn Dydd Sherpa'r Wyddfa
Gyda'r tocyn hwn cewch ddefnyddio rhwydwaith Sherpa'r Wyddfa hynny fynnwch chi drwy'r dydd (ar y diwrnod y'i prynir). Mae'n ddilys rhwng Bethesda, Llanberis, Llanrwst, Porthmadog a Waunfawr.

Llwybrau Cerdded
Beth am fwynhau taith gerdded un ffordd?
Defnyddiwch y Sherpa i deithio i'ch man cychwyn gan gymryd eich amser i gerdded yn ôl i'ch cerbyd.

Mae mwy o fanylion ar y bws Sherpa ar gael drwy ymweld â www.snowdoniagreenkey.co.uk.


Cysylltiadau Teithio

Gwybodaeth am Drafnidiaeth Gyhoeddus
Traveline www.traveline.org.uk
0871 200 22 33

Trafnidiaeth Cyhoeddus Gwynedd
www.gwynedd.gov.uk
www.gwynedd.gov.uk/bwsgwynedd

Bws Sherpa, Nant Gwynant
Gorsaf Rheilffordd Betws y Coed
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk