
Ymunwch yn yr amrywiol ddigwyddiadau a gynhelir o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.
Cliciwch yma i weld tudalen ddigwyddiadau Cymdeithas Eryri.
Diwrnodau Gwaith ym Mai 2013
Dydd Gwener 3 Mai – Casglu sbwriel ac arolwg, yr Wyddfa
Mae’r diwrnod gwaith hwn wedi’i ad-drefnu ar gyfer mis Mai, oherwydd nid oeddem yn gweithio ar yr Wyddfa ym mis Ebrill oherwydd eira trwm. Byddwn yn mynd gam ymhellach wrth glirio sbwriel y mis hwn, oherwydd yn ogystal â chasglu, gwahanu ac ailgylchu’r sbwriel y byddwn yn ei gasglu ar yr Wyddfa, byddwn hefyd yn nodi’r cyfanswm, y math, ac os oes modd, tarddiad y sbwriel a adewir gan y sawl sy'n ymweld â'r mynydd. Bydd hyn yn cynorthwyo i ddylanwadu ar gamau gweithredu ychwanegol y gellir eu cymryd i leihau’r sbwriel ar yr Wyddfa ac Eryri yn ei chyfanrwydd.
Dydd Mercher Mai 15 – Cynnal a chadw llwybrau’r Wyddfa
Oherwydd y tywydd garw yn y mynyddoedd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gwblhau rhagor o waith cynnal a chadw ar Lwybrau Pyg a’r Mwynwyr ar yr Wyddfa. Bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar wella pob agwedd o ddraeniad yn cynnwys clirio ceuffosydd, draeniau croes, draeniau ochr a symud rwbel oddi ar y llwybr ei hun. Yn ystod mis Rhagfyr, fe wnaeth orffen y gwaith ar ran cychwynnol Trac Pyg, felly, bydd angen cerdded cryn dipyn yn ystod pob diwrnod gwaith i gyrraedd rhan newydd o'r llwybr y byddwn yn gweithio arni.
Dewch i fwynhau diwrnod bendigedig yn y mynyddoedd; dysgwch sgiliau newydd; dewch i gwrdd â phobl newydd a chrwydrwch Eryri!
Dydd Sadwrn 25 Mai – Diwrnod glanhau traeth blynyddol a barbeciw, Harlech
Byddwn yn glanhau’r sbwriel sydd wedi ymgasglu dros fisoedd y gaeaf ar y traeth godidog hwn, â chymorth yr Uned Forwrol a Chyngor Gwynedd. Rydym yn bwriadu cynnal barbeciw a gweithgaredd cymdeithasol yn y pnawn o 3pm ymlaen i bob gwirfoddolwr, felly pa un ai a ydych yn gallu dod i gynorthwyo i glirio neu beidio, ymunwch â ni!
Dydd Mercher 29 Mai – Gweithdy cynnal a chadw offer, Gwaith Powdwr
Pa un ai a oes gennych fwyell ffyddlon y mae angen ei hogi neu os hoffech ddysgu rhagor am gynnal a chadw offer, dewch draw i wrando ar Mike Bithel yn cynnig cyngor ynghylch cadw celfi mewn cyflwr da. Byddwn yn ymuno â gwirfoddolwyr NWWT am y diwrnod hwn, ac yn mwynhau lle a chyfleusterau’r gweithdy yng ngwarchodfa Gwaith Powdwr. Mae croeso i chi ddod ag unrhyw offer y mae angen ychydig o sylw iddynt.
Cysylltwch â: Jenny Whitmore or Mary-Kate Jones 01286 685498
Ebost: jenny@snowdonia-society.org.uk neu
mary-kate@snowdonia-society.org.uk
Gŵyl Cerdded Trefriw - Mai 17-19
Gwener 17 Mai
Trywydd Hanesyddol Trefriw - 10am
Dau Lyn uwchben Trefriw - 1.30pm
Sadwrn 18 Mai
Dwy Eglwys a Chapel - 9.30am
Cyflwyniad i Gerdded Llychlynnaidd - 10am
Cloddfeydd Coedwig Gwydir - 1pm
Sul 19 Mai
Uwch ben Trefriw - 9.30am
Tai Gerdded i'r Teulu o amgylch Llyn Crafnant - 10am
Geogelcio ar gyfer teuluoedd - 1pm
Gwefan: www.trefriw.org/trefriw-walking-festival
Ffôn: 01492 575543 / 0790 162 8367
Dydd Gwener 7 Mehefin - Cynnal a Chadw Llwybrau
Yn dilyn ein diwrnodau gwaith hynod lwyddiannus a chynhyrchiol yn ddiweddar, pan wnaethom gynnydd da ar lwybrau’r Wyddfa, byddwn yn parhau i weithio ar lwybrau Pyg a’r Mwynwyr i gwblhau ein gwaith yma am y tymor hwn. Bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar wella pob agwedd o ddraeniad yn cynnwys clirio ceuffosydd, draeniau croes, draeniau ochr a symud rwbel oddi ar y llwybr ei hun. Ar gyfer y diwrnod gwaith, bydd angen cerdded am sbel i gyrraedd y rhan newydd o’r llwybr y byddwn yn gweithio arno.
Dydd Mercher 12 Mehefin – Clirio Ffromlys Chwarennog, y Bala
Mae’r tymor tynnu Ffromlys Chwarennog wedi cychwyn! Mae Ffromlys Chwarennog yn blanhigyn ymwthiol, estron. Bydd clystyrau trwchus ohono yn mygu planhigion eraill, gan wthio allan y cymunedau o blanhigion cynhenid, and phan fydd yn cilio yn y gaeaf, bydd yn gadael glannau afonydd gwag sy’n fwy tebygol o gael eu herydu. Mae Ffromlys Chwarennog hefyd yn cynhyrchu symiau sylweddol o neithdar sy'n denu pryfed peillio oddi wrth blanhigion cynhenid. Rydym wedi bod yn gweithio gydag APCE Eryri yn ystod blynyddoedd diweddar ar raglen lwyddiannus iawn i reoli’r planhigyn hwn, sy’n golygu fod y planhigyn wedi diflannu o rai mannau ble'r oedd yn bla yn flaenorol. Byddwn yn tynnu'r planhigyn hwn â llaw (mae'n hawdd iawn ei lacio) ac yn targedu'r llednentydd sy'n bwydo Llyn Tegid.
Dydd Sadwrn 15 Mehefin – Arolwg Mamaliaid Morol Sefydliad SeaWatch
Ymunwch â ni am yr arolwg cyntaf un o famaliaid morol a wneir gan wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri! Gan weithio gyda Sefydliad SeaWatch, a wnaiff roi sgwrs i ni yn y bore, byddwn yn gwneud arolwg o'r tir, gan gofnodi unrhyw famaliaid morol a welir, a allai gynnwys llamhidyddion a dolffiniaid trwynbwl. Gwyddys fod dyfroedd Cymru yn gartref i boblogaethau helaeth o’r ddwy rywogaeth, ac mae casglu data ynghylch eu dosbarthiad yn cynorthwyo i amlygu mannau bwydo a bridio pwysig. Nid yw lleoliad y diwrnod gwaith hwn wedi’i gadarnhau eto.
Dydd Gwener 28 Mehefin – Diwrnod Dyfrdwy – Yr Ymosodiad, y Bala
Yn dilyn llwyddiant diwrnod blynyddol glanhau Afon Dyfrdwy, a drefnir gan bartneriaid sy'n gweithio ar Afon Dyfrdwy, cynhelir digwyddiad newydd eleni i frwydro planhigion ac anifeiliaid ymwthiol estron, megis Clymog Japan, Ffromlys Chwarennog a’r Cranc Manegog Tsieineaidd. Y digwyddiad newydd hwn fydd y digwyddiad cydgysylltiedig cyntaf i reoli’r ymosodwyr estron hyn ar draws dalgylch Afon Dyfrdwy, o darddiad yr afon ym Mharc Cenedlaethol Eryri i'w haber. Bydd y digwyddiad yn cynnwys partneriaethau rhwng sefydliad yng Nghymru a Lloegr i gynnwys holl ddalgylch Afon Dyfrdwy, a byddwn yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Llyn Tegid, gan gydategu’r rhaglen waith sydd eisoes wedi’i chychwyn yno. Dilynir y digwyddiad hwn gan farbeciw yn y prynhawn, a drefnir gan APCE.
Cysylltwch â: Jenny Whitmore 01286 685498
Ebost: jenny@snowdonia-society.org.uk
