
Cyfweliad gyda'r Prif Weithredwr, Aneurin Phillips, ynghylch tarddiad deunyddiau ar gyfer adeilad newydd y Copa.
1. Pam fod angen adeilad newydd ar gopa’r Wyddfa?
Yn draddodiadol mae adeilad wedi darparu cysgod a gwasanaethau i ymwelwyr ar Gopa’r Wyddfa am dros 150 o flynyddoedd a heddiw mae’n darparu cysgod, lluniaeth a chyfleusterau toiled ar gyfer dros 350,000 o ymwelwyr sy’n cyrraedd y copa bob blwyddyn, ar drên neu ar droed. Adeiladwyd yr adeilad cyfredol dros 70 mlynedd yn ôl a bellach mae mewn cyflwr difrifol o wael. Nid yn unig ei fod o’n edrych yn hyll, ond mae o hefyd yn difetha mwynhad pobl o’r lleoliad godidog hwn.
Mae twristiaeth yn bwysig i’r economi leol yng Ngwynedd. Copa’r Wyddfa yw un o’r deg atyniad pwysicaf yng ngogledd Cymru a bydd adeilad newydd yn gwella'r profiad a gaiff ymwelwyr ac yn eu denu i ddychwelyd i’r ardal gobeithio.
Mae Copa’r Wyddfa yn eicon i Gymru a dydy’r adeilad sy’n bodoli yno ar hyn o bryd yn gwneud dim er lles ein delwedd fel cenedl.
Ym mis Mehefin 2002, cymeradwyodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gynigion Furneaux Stewart i ailwampio adeilad y copa ac yn seiliedig ar eu syniadau hwy, rhoddwyd caniatâd cynllunio i ailwampio’r adeilad yn llwyr ym mis Ionawr 2004.
2. Sut wnaeth yr Awdurdod ddewis y penseiri ar gyfer y prosiect?
Dewiswyd y penseiri trwy gyfrwng cystadleuaeth drwyadl. Ymgeisiodd fwy na 40 am y contract ac fe ddewisodd yr Awdurdod y cwmni llwyddiannus, Furneaux Stewart, yn 2002 ar sail y gwaith a gyflawnwyd ganddynt yn y gorffennol, eu profiad a’u patrwm gweithredu.
3. Pa fath o ddeunyddiau fydd yn cael eu defnyddio yn yr adeilad newydd?
Oherwydd y tywydd eithriadol ar y copa a’r angen i’r adeilad newydd gydweddu gyda’r hyn sydd o’i amgylch gymaint â phosib, mynnodd y Pensaer y dylai’r adeilad gael ei adeiladu gyda charreg gwenithfaen.
Ar y cyfan, deallaf yr amcangyfrifir y bydd dros ddau draean o werth y contract yn nhermau llafur, cludiant a chostau deunyddiau yn tarddu o Gymru, sy’n gyfran uchel iawn.
4. Achoswyd cryn bryder pan soniwyd ynghylch defnyddio gwenithfaen ar gyfer yr adeilad, yn enwedig gan fod pobl dan yr argraff bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn mynnu fod pobl leol yn defnyddio deunyddiau lleol. Onid ydi hyn yn golygu bod yr Awdurdod yn gosod un rheol i rai a rheol arall i eraill?
O dan gyfraith Ewrop ni chaiff yr Awdurdod fynnu bod pobl leol yn defnyddio deunyddiau lleol yn unig. Mae’r Awdurdod yn annog pobl i ddefnyddio deunyddiau naturiol ac o ffynonellau lleol pan fo hynny’n bosibl. O ran y llechi ar y to, mae’r Awdurdod yn rhoi amod yn manylu llechi lleol neu gyfwerth o ran nodweddion lliw, gwead a hindreuliad. Hyd at yr 1980au mae’n wir dweud bod yr Awdurdod yn mynnu y dylid defnyddio dim ond llechi o Gymru ond fe gollodd yr Awdurdod achos cyfreithiol a’r cyngor a dderbyniwyd gan y cyfreithwyr yn yr achos hwn oedd y buasem ni’n mynd yn groes i egwyddorion cyfamod Ewropeaidd petaen ni’n mynnu yn y contract mai dim ond deunyddiau lleol y caiff y contractwr eu defnyddio.
Felly yn yr achos hwn nodwyd yn y dogfennau contract bod yn rhaid i’r contractwr ddefnyddio gwenithfaen o Drefor neu gyfwerth.
5. Pam nad yw to’r adeilad yn cael ei adeiladu o lechi?
Mynnodd y pensaer mai gwenithfaen fyddai’r un mwyaf gwydn a phriodol fel deunydd adeiladu. Ni fyddai to llechi traddodiadol yn para dan yr amodau tywydd eithriadol sy’n digwydd ar gopa’r Wyddfa. Bob blwyddyn mae’r Awdurdod yn gorfod atgyweirio’r difrod i’r adeilad presennol a gaiff ei achosi gan stormydd e.e. teiliau ar goll ayyb.
6. Soniwyd ynghylch Cyfraith Ewropeaidd. Pam na wnaeth yr Awdurdod fynnu bod y contractwr yn defnyddio carreg leol?
Mae hwn yn faes cymhleth ond mi wnaf geisio’i egluro. Cafodd yr Awdurdod gyngor cyfreithiol arbenigol. Fe wnaeth y rheiny gynghori’r Awdurdod na allai yn ôl egwyddorion Cyfamod Ewropeaidd fanylu ynghylch o ble y dylid tarddu deunyddiau adeiladu. Fe wnaethom ni fynd cyn belled â phosib yn y broses dendro i nodi bod y gwenithfaen ar gyfer y to, er enghraifft, yn gorfod bod yn garreg o Drefor neu gyfwerth o ran ymddangosiad ac ansawdd. Yn naturiol mae’r contractwr sydd wedi ennill y contract i gyflenwi’r garreg ar gyfer y to wedi prisio’r garreg mor rhad â phosib yn unol â’i wybodaeth ynghylch prisiau’r byd.
7. Felly ni wnaeth y contractwr gyflwyno pris am wenithfaen lleol?
Yn ôl yr hyn rydw i’n ei ddeall, fe gafodd chwarel leol gyfle i gyflenwi’r gwenithfaen ar yr un amodau a chyflenwyr eraill, ond nid oeddynt yn gallu cwrdd â’r pris na’r indemniadau angenrheidiol yr oedd y contractwr eu hangen. Mae angen deall bod yr amserlen ar gyfer adeiladu’r adeilad newydd yn hynod o gyfyngedig oherwydd yr angen i hawlio’r grantiau. Deallaf fod y contractwr yn gofyn i gyflenwyr warantu i gyflenwi ar amser ac maent yn gofyn am indemniad pe na bai hyn yn digwydd. Roedd y cwôt a roddwyd gan y chwarel leol yn sylweddol uwch na rhai’r cystadleuwyr, ac yn gwbl hanfodol i’r contractwr, nid oedd y chwarel leol yn barod i gynnig yr indemniadau angenrheidiol.
8. Ond os nad yw’r Awdurdod yn gallu manylu ynghylch tarddiad y garreg, fe all ddod o unrhyw le.
Gwir. Mae gan y contractwr gyllideb ar gyfer y garreg o fewn pris ei dendr ac fe all y ffynhonnell ddod o unrhyw le yn y byd. Mae’r garreg ar gyfer y to, er enghraifft yn dod o Bortiwgal ond mae’r garreg ar gyfer y waliau a’r platfform yn dod o chwarel Cwt y Bugail ger Blaenau Ffestiniog. Fodd bynnag, mae’n rhaid i'r garreg a ddefnyddir
Ac yna
9. Mae’r Awdurdod wedi cytuno i dalu mwy o arian na’r hyn a roddwyd yn y gyllideb ar gyfer gwenithfaen Cymreig a gwenithfaen Portiwgeaidd. Sut y gallai o wneud hynny?
Mae hyn yn wir hefyd. Roedd gwenithfaen Blaenau Ffestiniog ar gyfer y waliau a’r palmant ar y platfform yn costio £56,000 yn fwy na’r gyllideb wreiddiol ac roedd y gwenithfaen Portiwgeaidd ar gyfer y to yn costio £28,000 yn fwy na’r gyllideb wreiddiol. Cynnydd cymharol fach ydi hyn o ystyried y costau adeiladu ar y cyfan sydd dros £7 miliwn.
Mae rhwydd hynt i’r contractwr ddod at yr Awdurdod gyda charreg sy’n costio’n uwch na’r gyllideb os mai dyna fuasai’n iawn yn ei farn o, yn enwedig petai o’n teimlo y byddai honno’n fwy addas (ee o ran lliw neu ymddangosiad ac / neu gynaladwyedd) nac unrhyw garreg arall a gynhwyswyd yn y gyllideb ar ei chyfer yn wreiddiol. Yna, gall yr Awdurdod, y tu allan i’r broses gynllunio, asesu a yw’n cytuno ac a yw hi, ar sail budd costau yn werth parhau a dyrannu swm ychwanegol o arian i’r gyllideb er mwyn galluogi i’r garreg honno gael ei defnyddio. Yn yr achos hwn fe ddaeth y contractwr at yr Awdurdod ac fe ystyriodd yr Awdurdod bod y cynnydd yn y gyllideb yn un y gellid ei gyfiawnhau oherwydd priodoldeb y gwenithfaen ac er mwyn sicrhau bod y garreg yn dod o ffynhonnell fwy cynaliadwy.
10. Felly fe wnaeth y contractwr gyflwyno cyflenwr lleol gerbron ar gostau ychwanegol i’r Awdurdod i’w ystyried y tu allan i’r broses gynllunio?
Do. Gŵyr y contractwr bod yr Awdurdod wirioneddol eisiau i gymaint â phosib o ddeunydd cyflenwi lleol gael ei ddefnyddio yn yr adeilad. Rhaid i mi bwysleisio, fodd bynnag, na fedrwn ni roi cyfarwyddyd i’r contractwr ddefnyddio cyflenwyr lleol yn gyffredinol, nac un cyflenwr yn benodol.
Petai’r contractwr yn dod o hyd i garreg briodol, a digon ohoni, gan gyflenwr a all warantu ei fod yn gallu cwrdd â’r amserlen ac a fyddai’n diogelu’r contractwr rhag unrhyw oedi, yna fe allai gyflwyno’r garreg honno ynghyd ag unrhyw gostau ychwanegol a ragwelir i’w hystyried. Byddai’r Awdurdod yn ymgymryd â dadansoddiad o fudd costau yn ofalus gan gadw mewn cof yr angen i fod yn ddarbodus wrth wario arian cyhoeddus, ac fe all ddod i’r casgliad y buasai’n werth dyrannu arian ychwanegol o du allan i gyllideb y prosiect. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi bwysleisio y byddai hyn yn dibynnu ar y costau ychwanegol ynghlwm i hyn, ynghyd ag a fyddai gan yr Awdurdod yr arian i’w ailddyrannu.
11. Felly beth sy’n digwydd pan fo’r contractwr wedi dod o hyd i garreg y mae o am ei defnyddio?
Bydd yn rhoi cais i Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel yr awdurdod cynllunio lleol. Y Pwyllgor Cynllunio sy’n penderfynu a yw’r gwenithfaen yn diwallu’r amodau. Does ganddo ddim hawl dros y ffynhonnell, y pris nac unrhyw fater arall. Yn yr achos hwn daeth y Pwyllgor Cynllunio i’r casgliad bod y gwenithfaen a gyflwynwyd o Tsieina, Portiwgal a Chymru yn dderbyniol ar sail cynllunio. Ond am y rhesymau y soniais yn eu cylch uchod penderfynodd yr Awdurdod fynd am y gwenithfaen o Bortiwgal a Chymru.
12. Fe all Awdurdod y Parc Cenedlaethol roi caniatâd cynllunio iddo ef ei hun mewn ffordd?
Gall. Fodd bynnag, nid yw hyn yn beth anghyffredin. Mae gan bob awdurdod cynllunio lleol bwyllgorau cynllunio a all roi caniatâd ar gyfer cynlluniau’r Awdurdod ei hun. Yr hyn sy’n bwysig yw bod yr Awdurdod Cynllunio yn sefyll ar wahân i’r awdurdod lleol a dim ond yn ystyried materion cynllunio.
13. Cytundeb Uchafswm Pris Gwarantedig yw’r contract hwn. Beth mae hynny’n ei olygu?
Er mwyn lleihau risg ariannol contract mor fawr i’r Awdurdod, sydd â chostau bron cymaint â’i gyllideb blynyddol, cynghorwyd yr Awdurdod i gytuno ar gontract Uchafswm Pris Gwarantedig gyda’r contractwr detholedig. Mae hyn yn golygu mai'r pris a gytunwyd arno yw’r pris a gaiff ei dalu, heblaw am unrhyw newidiadau a gytunir arnynt yn ystod y cynllun.
14. Pryd fydd y contractwr yn dymchwel yr adeilad sy’n bodoli’n barod?
Bydd y gwaith yn dechrau ar y 12fed o Fedi 2006 ac fe ddylai’r adeilad cyfan fod wedi cael ei ddymchwel i gyd cyn y gaeaf.
15. Pryd fydd yr adeilad newydd yn cael ei agor?
Disgwyliwn i’r adeilad newydd gael ei gwblhau a’i agor i’r cyhoedd erbyn haf 2008.


