
Cynhaliwyd agoriad swyddogol Hafod Eryri ar Fehefin 12fed 2009.

Hafod Eryri
Agorwyd yn Swyddogol ar ddydd Gwener
Mehefin y 12fed 2009.
Mae ar erwau Eryri
Hen gof yn ei chreigiau hi,
Cof uniaith oesoedd meithion
A hanes hil yn ei sôn.
Am arf ac eilliwr barfau,
A gwisg wedi i gawr ei gwau.
Cof hen am unben a aeth
Ar gleddyf ei arglwyddiaeth.
Ein noddfa fu'r Wyddfa o hyd,
Yn gaer uwch caerau gweryd.
Yn nodded ei neuaddau
Nid erys cof y drws cau.
Hen hil â chân hael i'w ched,
A'r hen gaer yn agored.
Ni cheir na llwyni na choed
I'w hesgair, ni thyf prysgoed
Ar y 'sgithredd llechweddog,
Ni chân ehedydd na chog,
Na gwefr gwlad wrth alwad hir
Hen dwristiaid y rhostir.
Gwenynydd na meusydd mêl
Ar wrychoedd, mae'n fro uchel.
Dur a'i egni dirwgnach
Ar waun bell yw y trên bach,
Yno'n dringo, dringo draw,
Esgyn uwch ynn ac ysgaw.
Y Cwm Brwynog a'r Clogwyn,
A rhos a chorlannau'r wyn.
Mynd am goethder ofergoel,
Malwennu mynd am lain moel
Cnydiog, toreithiog yr iaith
Hyd lên y genedl uniaith.
Mynd trwy gesair ac eira
Yn ddyfnder mewn irder ha'.
Llwybro i heth pell y brig
Yn cario'r coed a'r cerrig.
Hefo tîm yr hafod hon
A'i ddeunyddiau newyddion.
Ara deg a thrwm fu'r daith
Flinderog yno ganwaith.
Taenodd celfyddyd dynion
Ei sêl ag urddas dros hon.
Ac yn hen mae'r llaw a'i gwnaeth
Yn newydd ei saerniaeth.
Gyrr hoelion preiffion i'r pren,
Anwylo pob un hoelen.
Yn llaw gywrain ar feini
A choethter i'w harfer hi.
Carreg ar garreg arall
Yn ei lle yn cloi y llall.
Mae'n rhagfur rhag y curlaw
A ddeil pob drycin a ddaw.
Y mae un maen yn y mur;
Un hanfod o'n gwahanfur
Yn dwyn i fod yn y fan
Wae ein Llyw a Gwenllian.
Yr oedd hen go'n walio hon,
Yn ei walio â'r galon.
Ithfaen gwyrthiol technoleg
Yn toi yr adeilad teg.
Asiad er ei rymuso
Yw trwyn y tarw yn y to.
A gorchest ei ffenestri
Yn tagu rhu'r gwynt a'i gri.
Trwm yw'r heth, y storm a'i rhus,
Ond trech yw'r gwydyr trwchus.
Pen y daith hirfaith yw hon.
Arddeliad y fforddolion.
Nid yw'n adfail bugeiliaid
A'i llawr yn gynrhon a llaid,
Na thwlc, ond saerniaeth dda,
Rheitiach na Gwyddfa Rita.
Nad yw'n datod o'n deutu,
Morter ar falchter a fu.
Daeth bri am ei saerniaeth
Ac i nwyd y llaw a'i gwnaeth.
Rhoesant y gwobrau'n rhesi
Hudo'r holl wnâ'i gwychter hi.
Ennill un ar ôl y llall
Yn arwain at un arall.
Ac mae'n fêl i'r ymwelydd
Wedi'r daith hyd flinder dydd.
A hawdd yw bwrw lludded
Yn ei chôl, ei gwres a'i ched.
Ni ddaw heth i'r sawl a ddêl,
Mae'n lloches mewn lle uchel.
Man cadarn ger min codwm,
Mae'n llathr wrth y meini llwm.
Mae'n annedd i'w rhyfeddu,
Mae'n fan gwyn uwch dibyn du,
Mae'n llys cain, mae'n llais cenedl
Mae'n wych o hyd am hen chwedl.
Mae'n ysgubor agored,
Mae'n rawn llawn ei hyd a'i lled.
Nodwedd arbennig ydyw,
Neuadd fawr yr Wyddfa yw.
Dewch i'w gweld i'r ucheldir,
A dewch i ffald anial dir.
Ac i ddringo pob copa
'Sgithrog am dro gyda'r ha'.
Gwledd ddiorffen bellennig
Yw oriau braf ar y brig.
Mae’r ganolfan ymwelwyr newydd yn adeilad o gynllun unigryw a adeiladwyd o ithfaen ac mae golygfeydd anhygoel i’w gweld o’r wal wydr, y “ffenestr ar y byd”, ar hyd blaen y ganolfan. Gweithreda hefyd fel terminws ar gyfer Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa ac mae’n darparu cyfleusterau lluniaeth, tai bach, ynghyd â gwaith dehongli’r mynydd, ei hanes a sut i’w fwynhau. Mae llawer o’r gwaith dehongli yn rhan o adeiladwaith yr adeilad.
Ysgythrwyd llinellau o gerddi cyn Fardd Cymru, Gwyn Thomas ar yr adeilad, fydd o’r diwedd yn darparu strwythur addas i adeilad uchaf Cymru a Lloegr.
Rhai Ffeithiau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc,
Penrhyndeudraeth,
Gwynedd, LL48 6LF.
01766 770274
Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa
Gorsaf CRhW
Llanberis,
Caernarfon,
Gwynedd.
0871 720 0033


