
Mae rhan fwyaf o dir Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei ffermio'n breifat. Trwy ddangos parch ac ystyriaeth tuag at gefn gwlad a bywyd gwyllt a thuag at y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Eryri, fe allwch chi helpu sicrhau y bydd Parc Cenedlaethol Eryri yma i'w fwynhau gan y cenedlaethau sydd i ddod.
Mae mynediad i dir preifat trwy Hawliau Tramwy Cyhoeddus:
Llwybrau cyhoeddus
Llwybrau ceffylau
Llwybrau wedi'u caniatau
Mae gennych yn ogystal hawl cyfreithiol i fynd ar droed i dir sydd wedi'i fapio fel Tir Agored a Thir Comin Cofrestredig.
Nodir yr ardaloedd hyn ar fapiau Arolwg Ordnans Explorer OL. Mae rhifau 17, 18 a 23 yn ymwneud â'r Parc ar raddfa o 1:25,000.
Gwelir y logo brown a gwyn ar gamfeydd a giatiau sy'n arwain i Dir Agored.
Dengys y logo eich bod yn gadael Tir Agored. Mynediad trwy hawliau tramwy yn unig a geir.
O dro i dro, efallai y bydd ardaloedd o Dir Agored ar gau i'r cyhoedd neu efallai y bydd rhai amodau penodol. Gall hyn fod er mwyn atal perygl i'r cyhoedd, er lles bywyd gwyllt neu er mwyn gadael i ffermwyr wneud gwaith hanfodol. Gellir cael gwybodaeth am unrhyw dir sydd wedi'i gau neu ei gyfyngu ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru sef www.ccw.gov.uk/countrysideaccesswales.
Y tu allan i Dir Agored, a fyddech cystal â chadw at hawliau tramwy. Fe fydd hyn yn golygu llai o darfu ar ffermwyr a'u da byw, anifeiliaid gwyllt, adar a phlanhigion.
Cŵn
Mae cŵn yn aml yn achosi niwed i anifeiliaid fferm - yn enwedig defaid - yn Eryri; gan achosi dioddef ofnadwy i'r anifeiliaid a cholled ariannol i'r ffermwr dan sylw.
Cofiwch y gall hyd yn oed ci sydd fel arfer yn ufudd achosi marwolaeth a dioddef, heb o reidrwydd ymosod ar dda byw. Mae defaid yn hynod o sensitif i unrhyw darfu, yn enwedig pan mae nhw'n feichiog neu newydd eni, ac fe allan nhw farw os bydd ci yn rhedeg ar eu hôl hyd yn oed am bellter byr. Mae ŵyn newydd eu geni angen amser i ddod o hyd i'w bwyd, bondio gyda'u mamau a sugno. Os bydd unrhyw darfu arnynt, fe allant farw. Cofiwch gadw eich ci dan reolaeth yn ymyl defaid, gorau oll ar dennyn.
Mae gennych ddyletswydd cyfreithiol i gadw eich ci o dan reolaeth:
Fe'ch cynghorir yn gryf i osgoi gwartheg, yn enwedig rhai gyda lloi ifanc, os bydd gennych gŵn hefo chi. Fe all gwartheg ymosod ar gŵn a'u perchnogion pan fyddant yn teimlo dan fygythiad neu hyd yn oed os byddant yn teimlo cywreinrwydd.
Gwersylla
Er mwyn gwersylla yn unrhyw le yn y Parc Cenedlaethol, mae'n rhaid i chi gael caniatâd y perchennog tir neu'r ffermwr. Nid yw tir bryniog heb ei ffensio yn eithriad yn hyn o beth. Ni all Awdurdod y Parc Cenedlaethol roi caniatâd i chi; ac ni allwn roi enwau a chyfeiriadau perchnogion tir i chi.
Gellir cael rhestr o feysydd gwersylla trwyddedig sydd yn aml yn fach ac yn anghysbell, gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.