APCE
Rydych chi yma: Hafan > Ymweld

Ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn rhan arbennig o'r wlad lle mae pobl yn dod i ymlacio a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden mewn amgylchedd godidog.

Eryri/Snowdonia 2010-11
Mae cylchgrawn blynyddol y Parc Cenedlaethol,
Eryri 2010-2011 yn awr ar gael ar-lein!
Cliciwch yma i agor yr e-gylchgrawn sy’n
llawn dop o wybodaeth a syniadau i’ch helpu i
wneud y mwyaf o’ch amser yn Eryri!

Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

Mae tirlun Eryri yn unigryw. Mae'r naw cadwyn o fynyddoedd yn gyfystyr â 52% o'r Parc ac yn cynnwys llawer o gopaon sydd dros 3,000 o droedfeddi (915m). Heblaw am harddwch a hyfrydwch ei fynyddoedd uchel, mae tirlun Eryri yn amrywiol iawn ac yn cynnwys ceunentydd afonydd serth, rhaeadrau a dyffrynnoedd gwyrdd. Mae coetiroedd derw, onnen, criafol a chyll i'w cael ledled y Parc tra bod aberoedd hardd afonydd Dyfi, Mawddach a Dwyryd a 23 milltir o arfordir a thraethau euraidd yn cyfrannu at gyfoeth cyffredinol y tirlun.

Bob blwyddyn mae mwy na 6 miliwn o ddyddiau ymweld yn cael eu treulio yma. Os ydych am ddod yma, mawr obeithiwn y bydd y rhan yma o'r safle yn eich helpu i drefnu'ch ymweliad a'i wneud yn fwy dymunol.

Abergwyngregyn
Llwybrau'r Wyddfa
Llwybrau'r Wyddfa
Llwybrau Hygyrch
Llwybrau Hygyrch
Teithiau Archaeolegol
Teithiau
Archaeolegol
Cyrsiau Cerdded
Cyrsiau Cerdded
Beicio yn Eryri
Beicio
Canolfannau Croeso
Canolfannau Croeso
Rhagolygon y Tywydd
Rhagolygon y
Tywydd
Diogelwch Mynydd
Diogelwch Mynydd
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk