
Mae’n bosibl diffinio ein hamgylchedd naturiol fel yr holl bethau byw ac anfyw, a’r rhyngweithio a’r systemau sy’n digwydd rhyngddynt, sydd i’w canfod yn naturiol yn ein hamgylchedd. Byddai’n cynnwys y fioamrywiaeth, y cynefinoedd a’r ecosystemau sy’n rhoi’r aer a’r dŵr glân sy’n angenrheidiol i ni fyw, yn ogystal â’r adnoddau naturiol y mae dyn yn eu defnyddio bob dydd i dyfu bwyd, adeiladu tai a chreu trydan, i enwi ychydig o enghreifftiau’n unig.
Mewn cyferbyniad â’r amgylchedd adeiledig, mae ein hamgylchedd naturiol yn cynnwys ardaloedd a chydrannau sydd heb gael eu dylanwadu’n gryf gan ddyn. Yn sgil dylanwad aruthrol dyn a welwn o’n cwmpas erbyn hyn, mae wedi dod yn fwyfwy anodd, os nad amhosibl, dod o hyd i amgylchedd cwbl naturiol yma ar y Ddaear. Tra bydd rhai amgylchoedd yn aros yn fwy naturiol nag eraill, byddai rhai’n dadlau bod dyn wedi dylanwadu ar bob un o’n hamgylchoedd naturiol i ryw raddau.
Yn Eryri, rydym wedi cael ein bendithio ag amrywiaeth cyfoethog o amgylchoedd lled-naturiol, sydd wedi’u ffurfio gan ddyn dros filiynau o flynyddoedd i greu’r dirwedd a welwn o’n cwmpas heddiw. Crëwyd yn y lle cyntaf yn dilyn Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a dechreuodd astudiaeth i bennu ffiniau ar gyfer y Parc Cenedlaethol ym 1950, a arweiniodd at y ffin sydd gennym heddiw. Y meini prawf ar gyfer cael bod yn rhan o’r Parc oedd harddwch eithriadol, sydd wedi arwain at eithrio’r ardaloedd cynhyrchu llechi a rhai datblygiadau trefol. Daeth Parc Cenedlaethol Eryri i fodolaeth ar 18 Hydref 1951. Dyma’r trydydd Parc Cenedlaethol i gael ei ddynodi ym Mhrydain, a’r cyntaf yng Nghymru. Heddiw, mae Eryri’n un o 15 o Barciau Cenedlaethol ym Mhrydain. Yn ddiweddarach, daeth Parc Cenedlaethol Eryri yn Awdurdod annibynnol, a’i brif bwrpasau yw:
• Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal;
• Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc;
• Mae gennym hefyd ddyletswydd i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol yn y Parc.