
Mae'r Plas hefyd yn derbyn archebion annibynnol. Mae amryw o sefydliadau yn defnyddio'r Plas i redeg eu cyrsiau. Mae'r rhestr yma yn cynnwys, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Colegau Birkbeck a Wye Prifysgol Llundain, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerhirfryn, Awdurdod Iechyd Gwynedd, Cwmni Cynnal, Y Gwasanaeth Tân a llu o rai eraill. Mae Canolfan Addysg y Stablau yn gymharol newydd ac mae'r theatr arloesol 90 sedd a'r ddwy ystafell seminar yn darparu cyfleusterau delfrydol ar gyfer cynadleddau a seminarau.
Cofiwch gysylltu â ni os ydych eisiau pecyn gwybodaeth a manylion llawn am y cyfleusterau yn y Plas.


