SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio > Polisi Cynllunio >Cynllun Datblygu Lleol

Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Eryri

Cafodd Cynllun Datblygu Lleol Eryri (dyddiad terfynu 2022) ei fabwysiadu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 13 Gorffennaf, 2011.

Mae Cynllun Datblygu Lleol Eryri yn cynnwys Datganiad Ysgrifenedig, Mapiau Cynigion a Manwl ac ar y cyd â’r polisi cynllunio cenedlaethol bydd yn rhoi arweiniad i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar yr holl ddatblygiadau a chynllunio defnydd tir yn y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.

Datganiad Ysgrifenedig (fersiwn mabwysiedig)

Map Cynigion

Mapiau Manwl

Mi fydd copïau o fersiwn mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol Eryri gan gynnwys ei Fapiau Cynigion a Manwl ar gael i’w harchwilio’n rhad ac am ddim yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn Abermaw, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Harlech, Llanberis, Penrhyndeudraeth, Penygroes, Tywyn, Porthmadog, Y Bala, Cerrigydrudion, Llanrwst, Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy ac yng Nghanolfannau Croeso’r Awdurdod ym Metws y Coed, Dolgellau a Beddgelert yn ystod oriau agor arferol.

Datganiad Mabwysiadu

Mae Cynllun Datblygu Lleol Eryri’n disodli Cynllun Lleol Eryri, Cynllun Fframwaith Gwynedd sy’n berthnasol i ardal y Parc Cenedlaethol a Datganiad Darparu Tai Fforddiadwy Eryri fel y cynllun datblygu ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol.

Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol
Mae Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol i gyd-fynd â’r Cynllun. Gellir lawrlwytho’r adroddiadau llawn, ynghyd â’r Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar wefan Hyder Consulting.

Adroddiad Ymgynghori
Mae ystod eang o randdeiliaid wedi helpu i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol, ac mae eu cyfraniad parhaus yn hollbwysig yn y broses o weithredu’r Cynllun. Mae rhagor o wybodaeth yn yr Adroddiad Ymgynghorol a’r atodiad.

Dyfodol Eryri
Betws y Coed
Nant Gwynant
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk