SNPA Print Header
Rydych chi yma: Cynllunio >Tai Fforddiadwy

Tai Fforddiadwy

Mae prinder tai fforddiadwy yn fater cenedlaethol ac yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu nifer o gymunedau yn Eryri.

Felly pam nad ydym yn adeiladu mwy o dai?

Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n adeiladu tai, ac nid yw ychwaith yn awdurdod tai. Serch hynny, fel yr Awdurdod sy’n gyfrifol am gynllunio ym Mharc Cenedlaethol Eryri, rydym yn ceisio sicrhau bod adeiladau newydd neu drosiadau o fath sy’n angenrheidiol i bobl sy’n byw ac yn gweithio’n lleol.

Rydym yn gwneud hyn drwy:
• ein polisïau yng Nghynllun Datblygu Lleol Eryri ac ein Canllaw Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy
• cefnogi gwaith y ddau Hwylusydd Tai Gwledig sy’n gweithio ar ran y cymunedau lleol i gynnal arolygon ar anghenion o ran tai, a dod o hyd i atebion wedi’u teilwra i fodloni anghenion tai lleol a bennwyd. Mae Hwylusydd Tai Gwledig ar gyfer y rhannau hynny o’r Parc Cenedlaethol sydd yng Ngwynedd, ac un arall yn gweithio yn ardal Conwy.
• gweithio’n agos ag awdurdod tai lleol Gwynedd ac awdurdod tai lleol Conwy.
• gweithio’n agos â’r cymdeithasau tai sy’n gweithredu ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sef Cymdeithas Tai Clwyd yn ne’r Parc ac yn ardal Conwy, a Chymdeithas Tai Eryri yng ngogledd y Parc. Mae gan y cymdeithasau hyn eiddo i’w rhentu neu i brynu cyfran ohonynt, neu gallwch gofrestru eich diddordeb mewn perchenogaeth Cartref Fforddiadwy gyda hwy.

Beth a olygir â thai fforddiadwy i fodloni angen lleol?

Mae tai fforddiadwy’n cynnwys tai rhent cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy a thai canolradd, sy’n cael eu darparu i aelwydydd cymwys ag angen o ran tai. Rhaid i ddarpar feddianwyr tai fforddiadwy hefyd fodloni’r meini prawf person lleol. Mae’r diffiniad o ‘angen o ran tai’ a ‘pherson lleol’ yn ymddangos ar dudalen 75 o Gynllun Datblygu Lleol Eryri.

I gael esboniad o ddiffiniadau tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru yr ydym ni’n eu defnyddio, edrychwch ar Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru.

Rydym yn defnyddio cytundebau cyfreithiol, a elwir yn Gytundebau Adran 106, i sicrhau bod tai’n parhau i fod yn fforddiadwy i berson lleol, nid yn unig ar gyfer y preswylydd cyntaf, ond hefyd ar gyfer trigolion eraill yn y dyfodol.

Rwy’n dymuno adeiladu tŷ neu ddatblygiad newydd. Beth ddylwn i wybod?

Rydym wedi paratoi rhestr wirio ar gyfer ymgeiswyr sy’n bwriadu cyflwyno cais cynllunio am dŷ fforddiadwy i fodloni anghenion lleol.

Rhestr Wirio ar gyfer Ymgeiswyr sy’n cyflwyno cais cynllunio am Dai Fforddiadwy.

Dogfennau defnyddiol eraill:

Cynllun Datblygu Lleol Eryri: Polisi Strategol G: Tai, a Pholisi Datblygu 11: Tai Fforddiadwy ar Safleoedd Eithriedig (tudalen 74 – 77)

Canllaw Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy

Ffurflen angen o ran tai fforddiadwy

Mae copi o gytundeb cyfreithiol Adran 106 ar gael gan Adran Gyfreithiol yr Awdurdod.

Nodyn Cyfarwyddyd ar Gyngor Cyn Ymgeisio i ddarpar ddatblygwyr. Mae’r nodyn hwn yn cynnwys gwybodaeth bellach ynglŷn â sut i gael cyngor cyn ymgeisio, cyn mynd ati i gyflwyno cais cynllunio.

Dolenni defnyddiol eraill:

Tai Teg

Hwylusydd Tai Gwledig Cymru

Tai Clwyd

Tai Eryri

Am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’n Swyddogion Cynllunio ar 01766 770274 neu anfonwch neges e-bost at cynllunio@eryri-npa.gov.uk.
Castell y Gog, tai fforddiadwy yn Nyffryn Ardudwy
Glan Gors, tai fforddiadwy yn Nolwyddelan
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk