
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol. Mae dyletswydd statudol arno i baratoi Cynllun Datblygu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 2004.

Wrth i Awdurdod y Parc Cenedlaethol (APC) gyflawni ei ddyletswyddau cynllunio statudol, rhaid iddo ystyried cyfrifoldebau statudol a swyddogaeth reolaethol awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fel y’i nodir o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Ei bwrpas yw:
Feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol yn y Parc.
Y cynllun datblygu llawn ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri yw'r Cynllun Datblygu Lleol (dyddiad terfynu 2022)a gafodd ei fabwysiadu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 13 Gorffennaf, 2011. Nod y cynllun yw mynegi pwrpasau a dyletswyddau'r Parc yn nhermau polisiau cynllunio a datblygu sydd a wnelo defnydd tir.