
Bydd yr Awdurdod yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn ym Mhlas Tan y Bwlch. Cynhelir y cyfarfodydd yn Gymraeg gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd. Mae gan yr Awdurdod 18 Aelod, 9 Cynghorydd Lleol a benodir gan Gyngor Gwynedd, 3 Cynghorydd Lleol a benodir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a 6 aelod a benodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Aelodau hefyd yn gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau, Paneli a Gweithgorau.
Mae rhai o gyfarfodydd yr Awdurdod yn agored i’r cyhoedd. Gellir gweld yr amserlen lawn isod:
Awdurdod
(Plas Tan y Bwlch, Maentwrog)
Hawl i'r Cyhoedd Holi
Mae'r Awdurdod wedi clustnodi hyd at 20 munud ar ddechrau ei gyfarfod i roi cyfle i aelodau'r cyhoedd ofyn cwestiynau penodol sy'n ymwneud â gwaith yr Awdurdod (ag eithrio ceisiadau cynllunio) sy'n berthnasol i ddyletswyddau a phwrpasau'r Parc.
Rhaid cyflwyno'r cwestiynau'n ysgrifenedig (trwy'r post neu e-bost) i'r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol o leiaf 7 niwrnod cyn y cyfarfod.
Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau
(Plas Tan y Bwlch, Maentwrog)
Pwyllgor Cynllunio a Mynediad
(Plas Tan y Bwlch, Maentwrog)
Pwyllgor Safonau
(Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth)