SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc > 'Stafell Newyddion > 2009 >2009-07-28

Lluniau'n Ennill

28 Gorffennaf 2009

Wrth ddathlu Wythnos y Parciau Cenedlaethol a 60 mlwyddiant Deddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949,mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw (Dydd Mawrth, Gorffennaf 28), yn cyhoeddi enwau prif enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Bwrlwm Eryri.

Noddwyd cyfanswm o dair cystadleuaeth gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a chwmni Cambrian Photography o Fae Colwyn ac roedd pedwar categori i bob cystadleuaeth sef Pobl, Tirlun, Digwyddiadau a Gwnaed gan Ddyn. Y beirniaid oedd Aneurin Phillips (Prif Weithredwr APCE), y ffotograffydd o Drefriw, Pierino Algieri a’r arlunydd o Borthmadog, Rob Piercy.

Wrth drafod y gystadleuaeth, dywedodd Aneurin Phillips,

“Roedd y gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i ni godi ymwybyddiaeth o gyfoeth ein treftadaeth ni yn Eryri a hynny drwy gyfrwng lens camera. Wrth edrych ar y lluniau a ddaeth i’r brig, yn ddiamau, maen nhw’n lluniau sy’n ymhyfrydu, brolio a dathlu ein treftadaeth arbennig ac unigryw ni ac fel beirniaid, mi gawsom ni gryn drafferth i benderfynu ar y buddugol.”

Bydd y lluniau buddugol yn cael eu harddangos ar stondin y Parc Cenedlaethol yn Eisteddfod y Bala'r wythnos nesaf. Yr enillwyr yw:

  • Prif Wobr o £350 a lle ar gwrs ffotograffiaeth ym Mhlas Tan y Bwlch i David Urwin o Firmingham.
  • Gwobrau o £200 i enillwyr y categorïau, Arwel Rees Roberts o Fethel (Pobl): Rajendra Garawad o Fangor (Tirlun); Emyr Roberts o Fethesda (dau gategori, Gwnaed Gan Ddyn a Digwyddiadau); ac yng nghystadleuaeth y plant, £50 i Leon David Harty o Fae Penrhyn ac Ifan John Roberts o Garmel, Llanrwst.

Naomi Jones, swyddog Bwrlwm Eryri oedd trefnydd y gystadleuaeth.

“Mae Bwrlwm Eryri’n fenter sy’n cofnodi a hyrwyddo ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddiwylliannol ardal Eryri a’r cyffiniau. Ein nod, drwy weithgareddau fel y gystadleuaeth ffotograffiaeth, yw dod â threftadaeth yr ardal yn fyw i’r cyhoedd a dangos nad hanes yn unig yw ein treftadaeth , ond rhywbeth deinamig a byrlymus, sy’n berthnasol i ni heddiw.”

Ar ôl yr Eisteddfod, y bwriad yw arddangos y lluniau buddugol yn swyddfeydd yr Awdurdod dros y misoedd nesaf. Am fwy o fanylion, cysyllter â Naomi Jones, Swydddog Bwrlwm Eryri ar 01766 770274.

Diwedd

Nodyn i Olygyddion

1. Yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth roedd Gerallt Pennant o Borthmadog ac Andrew Currie o Abergynolwyn (Pobl), John Meirion Roberts o Benarlâg a Gail Johnson o Fae Trearddur (Tirlun), Richard Outram o Gaernarfon a Huw Jenkins o Faentwrog (Gwnaed Gan Ddyn); Ben Stammers o Rachub a Llion Gerallt o Lanrwst (Digwyddiadau) a Leon David Harty o Fae Penrhyn a Hebe Richardson o Abergele yng nghystadleuaeth y plant.

2. Bydd stondin y Parc Cenedlaethol wedi ei leoli wrth ymyl y Pagoda ar Faes yr Eisteddfod

3. Mae Wythnos Parciau Cenedlaethol yn rhedeg o Orffennaf 27 hyd Awst 1af, ond bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn parhau â dathlu’r wythnos yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Top of Form 1

&&&&&&

Bottom of Form 1

Argraffwch

I weld datganiadau'r wasg cliciwch ar y teitl ar y brif dudalen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Parc Cenedlaethol.

Swyddfa Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk