SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc > 'Stafell Newyddion > 2009 >2009-04-07

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Eryri

Dydd Mawrth, Ebrill 7fed. 2009

Fel rhan o’i baratoadau at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r Bala yn 2009, ac ar drothwy gwyliau’r Pasg, mae’r fenter, Bwrlwm Eryri, am lansio tair cystadleuaeth ffotograffiaeth sy’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol Eryri.

Mae tair cystadleuaeth, a noddir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a chwmni Cambrian Photography o Fae Colwyn, yn agored i rai o 6 i 15 oed, o 16 i 21 ac i rai sy’n hyn na 21 ac fe geir pedwar categori i bod cystadleuaeth, sef Pobl, Tirlun, Digwyddiadau a Gwnaed gan Ddyn. Gobaith yr Awdurdod yw cael arddangos goreuon y gystadleuaeth ar faes yr Eisteddfod yn y Bala ym mis Awst 2009.

Wrth edrych ymlaen at y gystadleuaeth, dywedodd Naomi Jones, Swyddog Bwrlwm Eryri,

“Mae treftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnwys holl dystiolaeth o weithgaredd dyn - yn dirweddau, adeiladau, safleoedd henebion, olion diwydiannol a hanesyddol, digwyddiadau megis eisteddfodau neu dreialon cwn defaid, patrwm caeau neu gorlannau yn y tirlun, giatiau traddodiadol, ysgrif ar faen neu garreg goffa, llenyddiaeth weledol, cofnodion, archifau a chasgliadau. Gall hefyd gwmpasu iaith (a thafodieithoedd), chwedlau, traddodiadau, dulliau amaethu traddodiadol a chelf, neu hyd yn oed berson neu gasgliad o bobl. Mae’r gystadleuaeth hon felly yn gyfle gwych i ni nid yn unig godi ymwybyddiaeth o gyfoeth ein treftadaeth, ond mae’n gyfle hefyd i ni gael ymhyfrydu, brolio a dathlu ein treftadaeth arbennig ni.”

Bydd enillydd y gystadleuaeth rhwng 6 a 15 yn cael gwerth £50 o docynnau anrheg i’w gwario yn siop Cambrian Photography, Bae Colwyn ac enillwyr cystadlaethau 16 i 21 a chystadleuaeth yr oedolion yn ennill gwerth £200 o docynnau anrheg hefyd i’w gwario yn siop Cambrian Photography, Bae Colwyn. Yn ychwanegol at hyn, bydd y prif enillydd yn cael lle am ddim ar un o gyrsiau ffotograffiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch.

Dyddiad Cau ar gyfer cystadlu yw Mai 31ain, 2009 a bydd y panel o feirniaid yn cynnwys Aneurin Phillips (Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), y ffotograffydd Pierino Algieri o Drefriw , a’r arlunydd o Borthmadog, Rob Piercy.

Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflen gystadlu, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, www.eryri-npa.gov.uk, neu cysylltwch â Naomi Jones, Swyddog Bwrlwm Eryri ar 01766 772517 neu e-bostiwch naomi.jones@eryri-npa.gov.uk .

Diwedd

Nodyn i Olygyddion.

1. Lansiwyd y fenter Bwrlwm Eryri ar faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005.

2. Os am drefnu cyfweliad, cysylltwch â Llinos Angharad, Swyddog Cyfryngau a Digwyddiadau ar 01766 772237 neu 07766 255509

Swyddfa Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk