
21 Ebrill 2009
Buddsoddiad Loteri o £2.75miliwn i adfywio tair tref Gymreig a chreu gweithlu â sgiliau newydd.
Mae tair o drefi mwyaf difreintiedig Cymru yn mynd i gael eu hadfywio ac yn mynd i dderbyn hwb economaidd sydd ei wir angen, diolch i £2.75 miliwn a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) heddiw (22 Ebrill 2009).
Bydd y buddsoddiad yn adfywio adeiladau hanesyddol y dref, yn diogelu cymeriad yr ardaloedd sydd dan fygythiad, yn creu 200 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi, yn sefydlu gweithlu treftadaeth â sgiliau a dod â bywyd newydd i’r trefi.
Mae Aberdâr, Dolgellau a’r Fflint wedi derbyn grantiau Menter Treftadaeth Treflun* (MTT) o £950,000, £900,000 a £920,000 yn eu tro. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dod â chyfanswm buddsoddiad CDL mewn cynlluniau MTT i £22.7 miliwn mewn 20 o drefi ar draws Cymru dros yr 11 mlynedd diwethaf. Yn ei dro mae hyn wedi rhoi cychwyn ar gylch o fuddsoddiad hirdymor o’r sectorau cyhoeddus a phreifat gan ddod ag amcangyfrif o lefel y buddsoddiad i £63 miliwn ar draws Cymru.
Erbyn hyn CDL yw’r 8fed cyfrannwr mwyaf i adfywio ym Mhrydain gyda chynllun MTT yn ffurfio rhan o restr hir o ymdrechion ym Mhrydain i ddelio ag erydiad treftadaeth adeiledig a’r tan ddefnydd o adeiladau mewn ardaloedd o bwysigrwydd cadwriaethol.
Mae’r tair grant ddiweddaraf yn cael eu defnyddio i atgyweirio’r cyfoeth o adeiladau masnachol a phreswyl Fictoraidd a Sioraidd, sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael a thrawsnewid adeiladau gwag i fannau defnyddiol. Bydd cyfanswm o 108 adeilad yn cael eu hadnewyddu fel rhan o’r gweddnewidiadau sylweddol fydd yn helpu i adfywio teimlad o falchder a lles ymhlith pobl leol a denu ymwelwyr a buddsoddwyr fel ei gilydd.
Bydd cysylltiadau â cholegau lleol a mentrau cyfredol yn cael eu ffurfio ym mhob un o’r trefi i gynnwys technegau adeiladu traddodiadol mewn cyrsiau adeiladu, cynnig dyddiau hyfforddi yn ogystal â seminarau ymwybyddiaeth o sgiliau ar gyfer contractwyr, asiantau eiddo a pherchnogion eiddo.
Bydd pwyslais hyfforddi yn cael ei roi i weithwyr adeiladu profiadol a phobl ifanc di-waith sydd angen hyfforddiant addas gyda sgiliau y gellir eu cyflogi. Yr amcan yw delio â’r bwlch mewn sgiliau lleol a galluogi contractwyr bychain i ddod yn fwy amrywiol eu gwaith trwy gyfleoedd hyfforddi i ymestyn eu gwybodaeth o sgiliau traddodiadol gyda rhagolygon o waith yn y pen draw.
Dywed Dan Clayton Jones, Cadeirydd Pwyllgor CDL Cymru: “Yn yr hinsawdd economaidd bresennol bydd y grantiau yma’n cynnig hwb sydd ei gwir angen a bydd yn cael effaith sylweddol yn nhermau troi ffawd y tair tref yma o gwmpas.
“Bydd y cynlluniau nid yn unig yn helpu i newid lleoedd gweigion i fod yn adeiladau â defnyddiau modern ond fe fyddan nhw’n sbarduno buddsoddiad, creu swyddi newydd, hyfforddi’r gymuned leol mewn sgiliau cadwriaethol, denu ymwelwyr ac yn fwyaf pwysig, yn gwella canfyddiad a balchder cymunedol yn yr ardaloedd.
“Yr MTT yw’r cam cyntaf tuag at greu canol trefi bywiog, atyniadol lle mae pobl yn mwynhau byw a gweithio a lle bydd rhanddeiliaid a buddsoddwyr yn gallu teimlo’n fwy hyderus ynglyn â dyfodol positif.”
Yn ogystal ag adfer ffisegol yr adeiladau, bydd cynlluniau MTT yn ariannu rhaglen i helpu’r gymuned leol i ddysgu am y dreftadaeth mae’r adeiladau’n ei gynrychioli trwy sgyrsiau, teithiau cerdded ac arddangosfeydd i greu synnwyr o le a pherchnogaeth ymhlith pobl leol.
Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, “Rydw i wrth fy modd bod y tair tref yma yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau grant Menter Treftadaeth Treflun oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae cynlluniau MTT wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth greu adfywiad mewn trefi hanesyddol trwy atgyweiriadau cadwraethol ac mae’n arddangos y rôl bwysig sydd gan dreftadaeth a chadwraeth mewn adfywio ardal. Rydw i’n falch bod Llywodraeth y Cynulliad, trwy ei adran amgylchedd hanesyddol, Cadw, wedi ymrwymo i fod yn bartneriaid ariannol i bob cynllun. Mae Cadw eisoes wedi dangos cefnogaeth i bob un o’r cynlluniau newydd yma.”
Mae Dolgellau’n dref hynafol, ddaeth yn ganolfan farchnad bwysig ar gyfer brethyn gwlân yn y 16eg a’r 17eg canrifoedd, ac o’r 18fed ganrif datblygodd y dref fel canolfan i dwristiaeth gyda thraddodiad brodorol cryf.
Mae gan yr ardal gadwraeth y crynodiad uchaf o adeiladau rhestredig ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae o arwyddocâd cenedlaethol yn nhermau ei leoliad wrth droed Cader Idris, ei strydlun a’i bensaernïaeth
Er bod llawer o gymeriad hanesyddol y dref yn aros, mae’n dirywio oherwydd diffyg cynnal a chadw ac atgyweiriadau anaddas o ganlyniad i hyder masnachol isel a dirywiad economaidd. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) yn amcanu i adfywio’r ardal trwy leihau’r ddibyniaeth ar dwristiaeth, ymestyn y tymor ymwelwyr a chynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau yng nghanol y dref. Ar hyn o bryd mae nifer o leoedd ar loriau uwch yng nghanol y dref yn dal yn wag neu’n cael eu tanddefnyddio.
Bydd y grant o £900,000 yn adeiladu ar y Bartneriaeth Cynllun Tref (PTC) gafodd ei gwblhau’n ddiweddar er mwyn adfer a gwella treftadaeth yr ardal gan ganolbwyntio ar galon fasnachol y dref, Sgwâr Eldon a Sgwâr y Frenhines, yn ogystal â gwaith cynnal mewn adeiladau preswyl rhestredig y tu allan i’r ardal ganolog.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Gwilym H. Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol y Parc: “Mae’r diffyg hyder masnachol a’r dirywiad economaidd diweddar yn golygu bod nifer o adeiladau hanesyddol yn y dref, adeiladau masnachol yn bennaf, mewn cyflwr gwael a bod rhai lloriau sydd ddim yn cael eu defnyddio. Mae cyflwr thai o’r adeiladau cyhoeddus hefyd wedi dirywio. Mae’r ffactorau hyn i gyd yn amharu ar gymeriad nodedig canol y dref. Mae’r grant yma gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi hwb sylweddol i’r dref a bydd yn ased i’r Bartneriaeth Cynllun sydd eisoes wedi adnewyddu dros 50 o adeiladau yn Nolgellau ers 1991. Bydd yr MTT yn gwneud cyfraniad sylweddol i adfywiad economaidd Dolgellau fel rhan o gynllun strategol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y rhanbarth ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu’r prosiect cyffrous hwn.”
Bydd seminarau ymwybyddiaeth a sgiliau MTT yn cael eu darparu a bydd APCE yn ceisio ymgorffori technegau adeiladu traddodiadol i gyrsiau adeiladu sy’n bodoli eisoes mewn colegau lleol.
Bydd penodi swyddog prosiect i reoli’r MTT dros y cyfnod o bum mlynedd yn sicrhau y bydd partneriaethau arwyddocaol yn cael eu llunio a bod ymwneud cymunedol yn cael ei sicrhau trwy amrywiaeth o brosiectau, cyfarfodydd ac arddangosfeydd wedi eu seilio yn y gymuned.
Mae’r MMT mwyaf diweddar i’w gwblhau yng Ngogledd Cymru wedi ei leoli yn Ninbych. Yn gyfan gwbl mae 25 o adeiladau wedi eu hadfer a 9 adeilad nawr yn cael eu defnyddio o’r newydd. Mae’r cynllun nid yn unig wedi trawsnewid delwedd a natur atyniadol y dref ond mae hefyd wedi denu buddsoddiad pellach i’r dref sy’n werth mwy na £1.2miliwn, wedi creu 47 o swyddi ac wedi diogelu 29 pellach, wedi adfywio mannau cyhoeddus y dref ac wedi gwella ansawdd bywyd y trigolion lleol.
Bryn Jones, perchennog R Bryn Jones, cwmni adeiladu yn Ninbych yw un o’r nifer o gontractwyr lleol i elwa o’r cynllun MTT. Dywedodd: “Fel saer yn ô fy ngalwedigaeth mae MTT Dinbych wedi agor llawer o ddrysau i mi ac mae’r gwaith rheolaidd wedi fy ngalluogi i gyflogi tri neu bedwar o aelodau o staff ychwanegol. Mae sgiliau adeiladu traddodiadol yn gofyn am dalu sylw i fanylion, allwch chi ddim â gwneud hyn heb yr hyfforddiant felly fe fyddwn yn argymell i adeiladwyr eraill i gymryd mantais o’r cyfleoedd hyfforddi er mwyn elwa ar y manteision hynny. Rydw i wedi bod yn hyfforddi fy nhîm dan oruchwyliaeth uniongyrchol er mwyn eu helpu i ymestyn eu rhychwant o sgiliau ac mae hyn wedi talu ar ei ganfed. Rydyn ni nawr yn rhan o weithlu sgiliau treftadaeth sydd â chryn alw amdano.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kate Sullivan ar 029 20764100 neu sian@equinox-pr.co.uk
* Mae cynlluniau MTT wedi eu seilio ar greu “cronfa gyffredin” wedi ei chreu o grant CDL ac ariannu o ffynonellau eraill; o’r rhain mae partneriaethau lleol yn rheoli cyfres o grantiau a roddir i drydydd parti er mwyn cynnal y gost a chadwraeth oddi fewn i brosiectau unigol. Mae aelodaeth o bartneriaethau lleol yn cynnwys awdurdodau cynllunio lleol a chymunedau lleol. Gall grantiau o’r gronfa gyffredin, sy’n rhaid ei ddyrannu oddi fewn i dair blynedd gyntaf y cynllun a’u gwario oddi fewn i bum mlynedd , gefnogi’r gwaith canlynol:
Atgyweirio strwythurau a ffabrigau adeiladau sy’n cael eu defnyddio
Atgyweiriadau allanol ac unrhyw waith trawsnewid mewnol sy’n gofyn bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio eto
Adfer nodweddion pensaernïol
Gwella’r ardaloedd cyhoeddus
Adeiladu adeiladau newydd sensitif ar safleoedd mewn mannau gwag
Gweithgareddau sy’n gwella dealltwriaeth o’r dreftadaeth a chynyddu’r cyfranogiad yn ei reoli
Hyfforddiant mewn sgiliau cadwriaethol
Ymchwil a gwerthuso fydd yn diogelu ymdriniaeth tymor hir i gadwraeth
Costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â rheoli cynllun, yn cynnwys swyddogion/rheolwyr prosiectau neilltuedig
** Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2000.
Ffeithiau Fflach am CDL
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi £190miliwn mewn grantiau yng Nghymru ar draws mwy na 1,700 o brosiectau ers 1995.
Rydyn ni wedi buddsoddi £30 miliwn mewn tir a phrosiectau bioamrywiaeth, gan ddiogelu 1,500 hectar o’n treftadaeth naturiol – mae hyn yn ardal sydd yn fwy na maint 2,000 o gaeau rygbi.
Mae CDL wedi buddsoddi dros £25 miliwn mewn prosiectau i ddiogelu treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Cafodd Y Pwll Mawr ym Mlaenafon ei ddewis trwy bleidlais yn ‘Amgueddfa’r Flwyddyn’ ar ôl y trawsnewidiad a ariannwyd gan y loteri, gan ennill y Wobr Gulbenkian mawr ei pharch, gwobr gelfyddydol fwyaf Prydain.
Y grant mwyaf erioed a roddwyd gan CDL yng Nghymru oedd £10.75 miliwn a roddwyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, a agorwyd ym Mis Hydref 2005.
Amcangyfrifir bod pob £1miliwn o ariannu gan CDF yn denu £800,000 o ffynonellau eraill, gan gael cryn effaith ar ddiogelu treftadaeth Cymru ar gyfer y dyfodol.
Mae hanner cant y cant o grantiau CDL wedi cael eu rhoi i elusennau, grwpiau cymunedol neu sefydliadau gwirfoddol.
Mae dros £75 miliwn o grantiau CDL yng Nghymru wedi helpu i arbed, diogelu ac agor adeiladau a henebion hanesyddol y wlad.
Mae ariannu CDL yn cyrraedd pob cwr o’r wlad. Rydyn ni wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer Hen Lys Barn Biwmares ar Ynys Môn, adnewyddu a chadwraeth Castell Caerdydd a Pharc Belle Vue yng Nghasnewydd.

