
26 Tachwedd 2009
Mae cymorth ariannol ar gyfer y rhai sy’n awyddus i wella ansawdd bywyd lleol, amgylchedd a dyfodol Eryri ar gael yn awr ar gyfer prosiectau a mentrau o fewn y Parc Cenedlaethol.
Pwrpas cynllun CAE yw annog bywyd cynaliadwy yng nghefn gwlad lle mae harddwch naturiol, amrywiaeth o ddiwylliannau, bywyd gwyllt, tirwedd a chymunedau’n byw gyda’i gilydd.
Ers iddo gychwyn ym mis Awst 2000, mae CAE, cynllun Cronfa Datblygu Cynaliadwy, eisoes wedi clustnodi £2.2 filiwn mewn arian grant i dros 260 o brosiectau gwahanol, gan ddenu dros £13 miliwn o arian cyfatebol. Fel rhan o’r cynllun, yr wythnos diwethaf dyfarnodd Panel CAE y canlynol:
Y tro hwn, mae CAE yn chwilio am brosiectau sy’n arddangos ymarfer da mewn cynaladwyedd a helpu i wella ansawdd bywyd pobl Eryri. Wrth edrych ar geisiadau, bydd y panel dewis yn ystyried cynhwysedd cymdeithasol, mewnbwn gan bobl ifanc a’r gymuned a chreu swyddi, yn ogystal ag edrych yn ffafriol ar brosiectau sy’n hybu dealltwriaeth o gynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi marchnata bwyd yn gynaladwy, hybu a defnyddio cynnyrch lleol, cynnal busnesau cynaladwy, mentrau trafnidiaeth cynaladwy a phrosiectau sy’n dangos blaengaredd ac arfer da.
Wrth apelio am geisiadau, dywedodd Sara Wynne-Pari, Swyddog Prosiect CAE,
“Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n cael eu harwain gan naill ai’r sector breifat, grwpiau cymunedol neu grwpiau gwirfoddol. Rydym yn chwilio’n benodol am grwpiau sydd â syniadau am nifer o brosiectau yn eu hardaloedd a fydd yn eu tro yn hyrwyddo datblygiad cynaliadwy. Mae’n rhaid iddynt ddangos eu bod yn gweithio mewn partneriaeth ac arddangos arloesed neu arfer da hefyd.”
Ychwanegodd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr APCE,
"Mae CAE ar hyd y blynyddoedd wedi cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i bobl fu'n awyddus i wella ansawdd bywyd ein cymunedau gwledig. Erbyn hyn fodd bynnag, er mwyn gwella ansawdd bywyd i genedlaethau'r dyfodol, yr her sy'n ein hwynebu ni yw newid hinsawdd. Yr ydym felly yn awyddus i gefnogi prosiectau ymarferol, er enghraifft rhai sy'n hybu twristiaeth gynaladwy a thrafnidiaeth gynaladwy ac yn rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn arddangos canlyniadau perthnasol, ymarferol a gweladwy"
Dylai ceisiadau gael eu cwblhau a’u dychwelyd at Swyddog Prosiect CAE erbyn dydd Llun, Rhagfyr 14eg 2009, a bydd Panel CAE yn cyfarfod i drafod y ceisiadau ar ddydd Gwener, Ionawr 29ain, 2010.
Am fwy o wybodaeth am sut mae mynd ati i wneud cais, cysylltwch â Sara Wynne-Pari, Swyddog Prosiect CAE, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, LL48 6LF, ffôn 01766 772 252 neu e-bost cae@eryri-npa.gov.uk.
Diwedd.
Nodiadau i olygyddion:
1. Cronfa Ddatblygu Cynaliadwy yw CAE a weinyddir gan APCE ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei phwrpas yw cefnogi prosiectau datblygu cynaliadwy a fydd yn gwella ansawdd bywyd yn y Parc Cenedlaethol.
2. Mae’r Gronfa yn derbyn £216,666 y flwyddyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
