
18 Medi 2009
Disgwylir i gynrychiolwyr o holl Barciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig gyfarfod yn Llandudno'r wythnos nesaf (23 - 25 Medi) i drafod dyfodol Parciau Cenedlaethol ym Mhrydain.
Pasiwyd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad ym 1949 ac fe’i sefydlwyd i sicrhau fod cefn gwlad yn cael ei ddiogelu a’i fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol. Yn ei sgil ac erbyn heddiw, sefydlwyd 14 o Barciau Cenedlaethol, 40 o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, 294 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a 2,900 milltir o Lwybrau Cenedlaethol.
Wrth groesawu bron i 200 o gynadleddwyr i Landudno, ar ran trefnwyr y Gynhadledd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dywedodd Caerwyn Roberts, Cadeirydd yr Awdurdod,
“Wrth i ni ddathlu 60 mlynedd ers pasio’r ddeddf, bydd y gynhadledd nid yn unig yn gyfle i ni hel atgofion am y gorffennol a sut mae’r dirwedd a chymdeithas wedi newid yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, ond yn bwysicach fyth, bydd y Gynhadledd yn ein hannog i edrych ymlaen yn ogystal â’n hannog i wynebu’r heriau sy’n ein hwynebu yn ystod y 60 mlynedd nesaf a thu hwnt i hynny.”
Ddydd Mercher bydd yr anerchiadau yn amrywio o entrepreneuriaid ifanc yn son am sut mae Parciau Cenedlaethol yn bwysig i’w mentrau nhw a chynrychiolwyr o asiantaethau yn esbonio sut gellir datblygu a gwarchod cymdeithas wledig. Ddydd Iau, bydd cyfle i gynadleddwyr weld drostynt eu hunain rai o’r prosiectau pwysig a gyflawnwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd areithwyr dydd Gwener yn ehangu’r drafodaeth wrth i ni edrych ar yr heriau sy’n wynebu tirwedd a chadwraeth ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol a bydd cynrychiolwyr o’r Alban, San Steffan a’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhannu eu gweledigaeth â’r cynadleddwyr.
Daw’r gynhadledd i ben amser cinio dydd Gwener. Noddwyd y gynhadledd gan Awdurdod y Parc, Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cynghorau Conwy a Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Fforwm Economaidd Gogledd Cymru, Gelert, Hufenfa de Arfon, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Natural England, Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, Plas y Brenin, Rheilffordd yr Ucheldir, Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa, Bysus Clynnog a Trefor, Scottish Heritage a Magnox.
Diwedd
Nodyn i Olygyddion
1. Yr 14 o Barciau Cenedlaethol ym Mhrydain ar hyn o bryd yw : Bannau Brycheiniog, Broads (er nad yn Barc Cenedlaethol yn swyddogol, mae’n cael ei gyfrif fel un), Cairngorms, Dartmoor, Exmoor, Ardal y Llynnoedd, Loch Lomond a’r Trossachs, New Forest, Northumberland, Gweunydd Gogledd Efrog, Ardal y Peak, Arfordir Penfro, Eryri a Dyffrynnoedd Swydd Efrog.
2. Mae 19.9% o dir Cymru, 9.3% o dir Lloegr a 7.2% o dir yr Alban wedi ei ddynodi yn Barc Cenedlaethol.
3. Mae’r 14 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain yn gorchuddio 8862 milltir sgwâr o dir, 443 milltir o arfordir ac yn cartrefu 433,000 o bobl.
4. Cydnabyddir bellach fod Parciau Cenedlaethol yn adnodd hamdden cenedlaethol pwysig gan ddenu tua 120 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn .
