
20 Gorffennaf 2009
Wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 20fed) yn cychwyn ar y cam nesaf o ymgynghori.
Darparu strategaeth ddatblygu ar gyfer datblygu cynaladwy ac anghenion cadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri am y 15 mlynedd nesaf wna’r Cynllun Datblygu Lleol ac mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol eisoes wedi derbyn sylwadau ar y gwaith a wnaed hyd yma. Yn ystod y broses ymgynghori ar y Cynllun, mae’r Awdurdod wedi derbyn sylwadau ac awgrymiadau gan y cyhoedd ar safleoedd gwahanol i’w hystyried. Mae’r sylwadau hyn yn cynnwys awgrymiadau o ddileu safleoedd neu ffiniau, addasu safleoedd neu ffiniau yn ogystal ag awgrymiadau am safleoedd neu ffiniau newydd. Nod y cam nesaf hwn yw sicrhau barn y cyhoedd am yr awgrymiadau newydd hyn.
Yn ôl Aled Sturkey, Cyfarwyddwr Cynllunio a Threftadaeth Diwylliannol yr Awdurdod, “Does gan yr Awdurdod ar hyn o bryd ddim barn bendant ar yr awgrymiadau newydd hyn eto ond rydan ni’n awyddus i glywed sylwadau’r cyhoedd arnyn nhw. Dim ond tri pheth sydd angen eu gwneud sef, mynd ar y wefan http://www.dyfodoleryri-npa.gov.uk/ i weld crynodeb o’r awgrymiadau newydd yma a mapiau o’r safleoedd, llenwi’r ffurflen sylwadau ac yna anfon y ffurflen yn ôl atom ni. Mi fyddwn ni’n fodlon derbyn ymatebion hyd at 5 o’r gloch ddydd Llun, Medi’r 14eg 2009 ”
Bydd copïau papur o’r awgrymiadau ar gael hefyd yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, mewn nifer o lyfrgelloedd yng Ngwynedd a Chonwy ac yng Nghanolfannau Croeso’r Awdurdod ym Metws y Coed, Beddgelert a Dolgellau. Wrth law hefyd bydd canllawiau ar gael fel cynhorthwy i gwblhau’r ffurflen sylwadau.
Bydd yr holl sylwadau ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn Swyddfa’r Parc yn ogystal â chrynodeb i’w weld ar wefan yr Awdurdod, llyfrgelloedd lleol a Chanolfannau Croeso’r Parc. Bydd yr Awdurdod yn ystyried unrhyw sylwadau ar yr awgrymiadau a maes o law yn penderfynu os ydyw yn cytuno â’r safleoedd eraill a’r sylwadau eraill ar y cynllun. Yna, bwriedir cyflwyno’r holl wybodaeth o flaen Arolygwr Cynllunio i ystyried yr holl faterion mewn Archwiliad Cyhoeddus ddechrau 2010. Disgwylir derbyn adroddiad terfynol gan yr Arolygwr fydd yn cynnwys newidiadau i’r Cynllun erbyn diwedd 2010.
Mae mwy o wybodaeth am y cynllun i’w gael ar wefan yr Awdurdod, www.eryri-npa.gov.uk/dyfodoleryri neu mae modd cysylltu ag Adran Bolisi’r Awdurdod drwy ffonio 01766 770274.
Diwedd
Nodyn i olygyddion:
1. Cychwynnodd y broses ymgynghori ddwy flynedd yn ôl wrth drafod syniadau gyda sefydliadau a thrigolion drwy gyfrwng cyfarfodydd fforwm, cynadleddau, gwaith cydweithredol gyda chynghorau cymuned, grwpiau llywio a sesiynau galw heibio. Gofynnwyd i bobl am eu syniadau a’u barn ar ddyfodol cymunedau, gwarchod Eryri, sut i annog pobl ifanc i aros, sut i gryfhau economi’r ardal a sut i sicrhau tai fforddiadwy i bobl Eryri.
2. Am fanylion pellach neu os am drefnu cyfweliad, cysylltwch â Llinos Angharad ar 01766 772237 neu 07766 255509.
