SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc >Prosiect Ogwen

Prosiect Ogwen

Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu canolfan newydd ar safle swyddfa’r Warden yng Nghwm Idwal yn Eryri. Mae oddeutu 250,000 o ymwelwyr yn ymweld â Dyffryn Ogwen bob blwyddyn ond mae’r adeilad presenol yn rhy fach i ateb ein gofynion. Mae’r safle yn colli allan ar groesawu ymwelwyr i un o ardaloedd mwyaf godidog Eryri.

Trwy’r fenter yma y bwriad yw gweddnewid y ganolfan a chreu mynedfa i Eryri a fydd yn gwella dealltwriaeth a mwynhad pobl o Gwm Idwal. Cwm Idwal yw un o brif atyniadau Eryri ymysg ymwelwyr, a thrwy wella’r cyfleusterau y gobaith yw y bydd cynulleidfa ehangach yn cael eu denu i’r Cwm gan fanteisio ar gyfleoedd hamddena yr ardal.

Partneriaeth Cwm Idwal

Mae Partneriaeth Cwm Idwal yn goruchwylio’r gwaith gyda phob partner yn cyfrannu at y gost. Y bartneriaeth yw; Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r cynllun wedi ei ariannu gan brosiect strategol CAN (Communities & Nature) trwy Gronfa Datblygu Ardal Ewropeaidd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru trwy Lywodraeth y Cynulliad. Mae CAN yn cefnogi mentrau cynaliadwy trwy Gymru sy’n dod a ffynniant economaidd i ardaloedd gwledig.

Mae Partneriaeth Cwm Idwal wedi ymgynghori yn barod gyda arweinyddion canolfannau addysg awyr agored a chanolfannau sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored ynglyn a’r cyfleusterau sydd eu hangen ar y safle. Yn dilyn yr ymgynghoriad, fe gafodd briff dylunio ei baratoi a dewisiwyd cwmni pensaerniol ‘Dewis’ i baratoi cynllun.

Rhodd y fenter yma fydd:

• Mynedfa addas i gyd-fynd â thirlun godidog Cwm Idwal.
• Cyfleusterau sy’n ysbrydoli anturiaeth newydd a gwasanaeth i ymwelwyr.
• Cyfleusterau sy’n agored i amrediad ehangach o ymwelwyr.
• Dehongli newydd a ffres o Gwm Idwal.
• Canolfan ar gyfer ymrwymiad cymunedol a gwirfoddol yn yr amgylchedd.
• Safle ar gyfer cynnal cyfarfodydd i gefnogi anturiaeth a digwyddiadau.
• Oddeutu 350 metr o lwybr newydd o amgylch Llyn Idwal.

Dyluniau Terfynol

Cliciwch isod i weld dyluniau terfynol prosiect Ogwen:

Cynllun Lleoliad A3
Cynllun Safle Presenol a Thrawsdoriadau A1
Cynllun Llawr a Drychiadau Presenol A1
Cynllun Safle Arfaethedig A1
Cynllun Llawr Arfaethedig A3
Cynllun Draeni Arfaethedig A1
Drychiadau Arfaethedig
Drychiadau Arfaethedig
Prif Ddrychiad Arfaethedig a Manylion Pellach A2
Trawsdoriadau Arfaethedig

                       
Llyn Ogwen
Dyffryn Ogwen


Guto Roberts yw Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal a rhan o'i ddyletswyddau yw rheoli'r Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae'r datblygiadau yn Ogwen yn rhan allweddol o'r Bartneriaeth. Darllenwch flog Dewi i ddarganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd yng Nghwm Idwal.
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk