
27 Gorffennaf 2009
 hithau’n wythnos Parciau Cenedlaethol a chyfle i ddathlu 60 mlwyddiant ers eu sefydlu, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn awyddus i wella’i ddarpariaeth i bobl anabl ac i geisio herio’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.
Cyhoeddodd yr Awdurdod ei Gynllun Cydraddoldeb Anabledd gwreiddiol yn 2006. Ei brif bwrpas oedd sicrhau fod yr Awdurdod yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a sicrhau fod pobl anabl yn cael eu cynnwys yng ngwaith yr Awdurdod. Ers hynny, llwyddodd yr Awdurdod i gyflawni nifer o weithgareddau sydd wedi cyfoethogi profiad pobl anabl o Barc Cenedlaethol Eryri. Ond mae’n awyddus i wella.
Ymhlith y gweithgareddau a drefnwyd dros y tair blynedd diwethaf
Yn ychwanegol at hyn, mae’r Awdurdod wedi
Wrth ofyn am ymateb gan y cyhoedd, dywedodd Carys Dafydd, Swyddog Cymunedol yr Awdurdod,
“Wedi tair blynedd, mae’n bryd i ni adolygu’n cynllun hwn. Rydym wedi derbyn ymateb ffafriol hyd yma, ond fe hoffem gael gwybod sut y gallwn ni wella. Sut fedrwn ni wella’n darpariaeth bresennol? Oes ‘na bethau eraill y medrwn ni eu gwneud er mwyn sicrhau fod pawb yn cael yr un cyfle â’i gilydd, beth bynnag fo’u hoed, eu gallu corfforol neu eu gallu meddyliol? Buaswn yn falch iawn o glywed oddi wrth unrhyw un sy’n anabl neu’n cynrychioli buddiannau pobl anabl, ac unrhyw un fyddai â diddordeb dylanwadu ar y gwaith mae’r Awdurdod yn ceisio’i wneud yn y maes pwysig hwn.”
I gysylltu â Carys neu i drafod ymhellach, gellir ei ffonio ar 01766 772269 neu gysylltu â hi drwy e-bost ar carys.dafydd@eryri-npa.gov.uk.
Diwedd
Nodyn i Olygyddion
1. Cyhoeddwyd y Cynllun Cydraddoldeb Anabledd yn unol â Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
2. Mae copi o gynllun presennol yr Awdurdod ar gael ar wefan yr Awdurdod.
3. Cynhelir y dydd daith nesaf ar gyfer pobl o bob gallu am 2.00 o’r gloch, ddydd Mercher 5 Awst yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol y Bala, sef taith o Faes Parcio’r Grîn yn dilyn afon Tryweryn at Lyn Tegid. Cysylltwch â stondin y Parc ar y Maes am fwy o fanylion.
4. Teitl i gyd-fynd â’r llun “ Mwynhau cerdded yng ngwarchodfa natur Coedydd Aber”.
