SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc > 'Stafell Newyddion > 2009 >2009-06-12

Hafod Eryri yn Agor

12 Mehefin 2009

Heddiw (Dydd Gwener, Mehefin 12fed) agorodd y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru Hafod Eryri yn swyddogol.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw perchennog canolfan ymwelwyr newydd copa’r Wyddfa a adeiladwyd ar gost o £8.35m. Adeiladwyd y ganolfan, a gynlluniwyd gan y pensaer Ray Hole i wrthsefyll tywydd eithafol iawn ar y copa, o wyntoedd yn chwythu hyd at 150 mya, dros 5m o law bob blwyddyn a thymheredd o -20°C, a’r gobaith yw y bydd y ganolfan yn croesawu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Wrth edrych yn ôl, dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod, Cyng. Caerwyn Roberts,

“Mae heddiw yn un o’r diwrnodau pwysicaf yn holl hanes Parc Cenedlaethol Eryri. Yr hyn yr ydan ni’n ei wneud heddiw yw dathlu llwyddiant ein mentergarwch. Bum mlynedd yn ôl fe benderfynodd yr Awdurdod ymrwymo swm oedd gyfwerth â’i gyllideb blynyddol i un prosiect, a’r prosiect hwnnw wedi ei leoli dros 3,500 troedfedd ar ben mynydd. Oni bai am ddycnwch a dyfalbarhad staff, Aelodau ac yn arbennig yr adeiladwyr, ni fyddem ni yma heddiw ac felly mae’r diolch iddyn nhw. Mae’n diolch ni hefyd i’n cyllidwyr, y Comisiwn Ewropeaidd drwy’r swyddfa Ariannu Ewropeaidd yn Nghymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa, ac wrth gwrs y cyhoedd drwy gyfrwng yr Apêl Cyhoeddus. Rwy’n gwbwl argyhoeddedig y bydd Hafod Eryri yn adeilad y bydd Cymru gyfan yn falch ohonno a bydd uchafbwynt priodol i ben taith i un o eiconau pwysicaf Cymru.”

Carillion fu’n gyfrifol am waith adeiladu Hafod Eryri. Daeth dros 60% o’r deunyddiau a ‘r llafur o Gymru gan gynnwys ithfaen o Flaenau Ffestiniog ar gyfer y waliau a’r platform, a derw Cymreig ar waliau mewnol yr adeilad.

Diwedd

Os am drefnu cyfweliad, neu os am gopi o'r nodiadau briffio, cysylltwch â Llinos Angharad, Swyddog Cyfryngau a Digwyddiadau APCE ar 01766 772237 neu 07766 255509 neu Llinos.Angharad@eryri-npa.gov.uk

Hafod Eryri
Hafod Eryri
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk