SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc > 'Stafell Newyddion > 2009 >2009-07-15

Gwasanaeth i Gwsmeriaid Plas yn Rhagorol

15 Gorffennaf 2009

Heddiw, (Dydd Mercher, Gorffennaf 15), cyflwynwyd “Gwobr Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid” i Blas Tan y Bwlch, Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol y Parc Cenedlaethol, gan Swyddfa’r Cabinet.

Mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mhlas Tan y Bwlch Maentwrog, cyflwynodd Elfyn Llwyd AS, y wobr i Andrew Oughton, Pennaeth Busnes y Ganolfan. Rhoddir y wobr fel cydnabyddiaeth am lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ansawdd y ddarpariaeth, prydlondeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ag agwedd staff.

Ar ran Plas Tan y Bwlch, dywedodd Andrew Oughton,

“Wrth i ni fynd drwy’r broses hon, gwnaeth i ni edrych yn fanwl arnom ein hunain a gwnaeth i ni feddwl yn ofalus am sut ydym yn delio â’n holl gwsmeriaid. Wrth dderbyn y wobr, byddwn nawr yn defnyddio’n profiad i gryfhau ein gwasanaeth i gwsmeriaid fydd yn ei dro yn gwella lefel boddhad cwsmer yn y Plas. Fyddai derbyn y wobr hon ddim wedi bod yn bosib oni bai i ni dderbyn cefnogaeth lawn Aelodau’r Awdurdod, yr Uwch Dîm Rheoli a’r holl staff yn y Plas.”

Ers ei sefydlu fel Canolfan Astudiaethau ym 1975, cydnabyddir Plas bellach yn genedlaethol ym maes astudiaethau amgylcheddol ac mae’n ganolfan gwbwl unigryw yng Nghymru oherwydd yr amrediad o gyrsiau ac adnoddau mae’n eu cynnig. Heddiw, mae’n cynnig ystod o adnoddau rhagorol ar gyfer cyrsiau proffesiynol, addysgol a chyhoeddus gan gynnwys darlithfa, ystafelloedd darlithio a seminar, llyfrgell adnoddau a chyfeirio, ystafelloedd gwaith maes, bar, lolfeydd ac offer AV ac SG o ansawdd uchel. Lleolir y ganolfan o fewn 100 acer o lynnoedd, gerddi a choedlannau a gellir darparu llety i 71 o bobl mewn ystafelloedd sengl a dau wely.

Mae Plas Tan y Bwlch hefyd wedi ennill Gwobr Aur Cynllun Croeso gan Groeso Cymru ac enillodd Wobr Croeso Cymru am y Darparwr Gweithgareddau Gorau yn 2003. Yn 2006, enillodd statws Eco Ganolfan gan Cadw Cymru’n Daclus.

Dywedodd aseswr ar ran SGS United Kingdom Ltd,

“Mae Plas Tan y Bwlch yn lle unigryw, ond mae dau beth yn sefyll allan i mi. Yn gyntaf, mae eu hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn treiddio drwy’r holl sefydliad, gyda phawb yn cyd-weithio i’w sicrhau. Yn ail, mae eu hymrwymiad i ragoriaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r adeilad a thir y Plas ac maent yn anelu at ddarparu gwasanaeth a chyfrannu i fywydau’u cymuned o’u cwmpas a thu hwnt. Gwerthfawrogwyd hyn yn fawr gan y bobl oedd yn ymwneud â’r asesiad Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Llongyfarchiadau ar lwyddo i ennill Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer. ”

Diwedd

Nodyn i Olygyddion:

1. Teitl y llun “Andrew Oughton, Pennaeth Busnes Plas Tan y Bwlch yn derbyn Gwobr RhGC oddi wrth Elfyn Llwyd, AS.”

2. Sefydlwyd y Safon Rhagoriaeth Cwsmer gan Swyddfa’r Cabinet ym mis Mawrth 2008.

3. SGS yw’r arweinydd a’r arloeswr byd-eang mewn gwasanaethau arolygu, gwirio, profi ac ardystio. Wedi ei sefydlu ym 1878, cydnabyddir SGS yn fyd eang fel meincnod ansawdd a gonestrwydd. Mae’n cyflogi dros 53,000 o bobl ac yn gweithredu rhwydwaith o fwy na 1,000 o swyddfeydd a labordai o gwmpas y byd. Am fwy o fanylion, ewch at http://www.uk.sgs.com/

Mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mhlas Tan y Bwlch Maentwrog, cyflwynodd Elfyn Llwyd AS, y wobr i Andrew Oughton, Pennaeth Busnes y Ganolfan.
Plas Tan y Bwlch
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk