
23 Mawrth 2009
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gael derbyn Gwobr Clod Uchel yn Ngwobrwyon Rhagoriaeth Cymru a drefnwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yn y seremoni wobrwyo gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar, (nos Iau, 12 Mawrth 2009) cydnabuwyd yr Awdurdod am ei waith yn ymateb i newid hinsawdd. Roedd y Wobr Clod Uchel hon yn un o ddim ond dwy wobr Clod Uchel a ddyfarnwyd yn ystod y seremoni.
Dywed y dyfarniad, “Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dangos fod yr holl Awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd drwy ei weithgareddau mewnol a thrwy brosiectau ar y cyd.” Mae hefyd yn cydnabod fod cyfeirio at newid hinsawdd yn nodwedd sy’n greiddiol i Gynllun Rheoli'r Parc Cenedlaethol, y Canllaw Dylunio Cynaladwy a’r Cynllun Datblygu Lleol.
Wrth siarad ym Mhenrhyndeudraeth heddiw, dywedodd y Cynghorydd Caerwyn Roberts, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
“Rydan ni’n falch iawn ein bod ni wedi derbyn Gwobr Clod Uchel yn Ngwobrwyon Rhagoriaeth Cymru. Mae hyn yn cydnabod yr ymdrech a wnaed gan yr Awdurdod dros y blynyddoedd diwethaf wrth ymateb i newid hinsawdd ac rydym yn ymroddedig i barhau â’n gwaith yn y maes hwn i leihau ymhellach ein heffaith ar yr amgylchedd.”
Diwedd
Nodyn i Olygyddion
1. Llynedd, yng Ngwobrwyon Rhagoriaeth Cymru derbyniodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wobr Rhagoriaeth am ei gyfraniad i’r amgylchedd.
2. Yn y llun, o’r chwith i’r dde mae Rhun ap Iorwerth (BBC Cymru) Andrew Oughton, Emyr Williams, John Ablitt, Aneurin Phillips (APCE) a John Davies (CLlLC)
3. Cynllun ymafer da ar gyfer gwobrwyo llywodraeth leol yn Nghymru yw Excellence Wales/ Rhagoriaeth Cymru. Ei nod yw i rannu ymarfer da a dysg dros Gymru a’r DG.
4. Rheolir y cynllun gan CLlLC a’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
5. Aseswyd ceisiadau Rhagoriaeth Cymru gan Aelodau o banel allanol yn cynnwys: Doug Elliott (cyn Bennaeth y Swyddfa Archwilio yng Nghymru); Sue Essex (cyn Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru); David Jenkins (cyn Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru; Bryan Mitchell (cyn gyfarwyddwr ar fwrdd rheoli gweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru); Richard Parry Hughes (cyn arweinydd Cyngor Gwynedd); Fran Targett (Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Cymru) ac Owen Watkins (cyn Brif Weithredwr Cyngor Ceredigion).
6. I drefnu cyfweliad, cysylltwch â Llinos Angharad, Swyddog Digwyddiadau a’r Cyfryngau ar 01766 772237 neu 07766 255509.
