
31 Mawrth 2009
Wedi 7 mlynedd o wario ar wella ag adfer cymeriad Ardaloedd Cadwraeth rhai o drefi de a chanolbarth Eryri, heddiw (Dydd Mawrth, Mawrth 31ain) fe ddaeth Partneriaethau Cynllun Tref Aberdyfi, Dolgellau a Harlech i ben.
Sefydlwyd Partneriaethau Cynllun Tref ar y cyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Cadw yn 2002 yn dilyn gwaith prosiectau blaenorol. Pwrpas y Partneriaethau oedd diogelu neu wella cymeriad neu ymddangosiad Ardaloedd Cadwraeth o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol drwy roi grantiau i atgyweirio ag adfer cymeriad adeiladau hanesyddol. Ers sefydlu’r partneriaethau, gwariwyd £1,000,000 mewn grantiau wrth wella nifer o adeiladau yn Aberdyfi, Dolgellau a Harlech.
Cyfnod y cynlluniau yn wreiddiol oedd rhwng 2002 a 2005, ond cytunwyd ar dair blynedd o estyniad yn dilyn adolygiad gan Cadw yn 2006 o berfformiad y cynlluniau pan ganmolwyd safon uchel y gwaith. Erbyn heddiw, mae’r Partneriaethau wedi cyfrannu grantiau sylweddol i atgyweirio 9 adeilad yn Aberdyfi, 17 adeilad yn Nolgellau a 5 yn Harlech.
Ymhlith rhai o’r gwelliannau a wnaed ers 2002 fel rhan o’r Cynlluniau, mae
· Aberdyfi - Plas Dyfi. Adfer cymeriad yr adeilad drwy drwsio a ailosod ffenestri traddodiadol, ail-doi a thrwsio’r landeri.

cyn wedyn
· Harlech – Yr Hen Lew Coch. Achub un o adeiladaau hynaf y dref drwy drwsio’r to hynafol a gwella’r golwg allanol, sydd yn weladwy iawn o Gastell Harlech, rhan o’r Safle Treftadaeth y Byd.

cyn wedyn
· Dolgellau. – Forden House. Atgyweirio ty yng nghanol y dref sydd â hen lofft wehyddu, ail greu canopi llwytho a dadlwytho, drysau a ffenestri yn unol â hen ffotograff.

cyn wedyn
Wrth edrych yn ôl ar y gwelliannau a gyflawnwyd yn sgil gwaith y Partneriaethau, dywedodd Gwilym Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod y Parc,
”Roedd cyrraedd y garreg filltir nodedig o £1 miliwn o grantiau i ddiogelu cymeriad rhai o drefi mwyaf hanesyddol y Parc yn ddiweddglo teilwng i’r Cynllun. Rwyf yn cydnabod cyfraniad hael Cadw, ond yn fwyaf oll cyfraniad a brwdfrydedd y perchnogion a gymerodd rhan yn y cynllun . Mae safon uchel y gwaith a gyflawnwyd yn deyrnged arbennig i’r penseiri a’r crefftwyr lleol a gyflawnodd y gwaith.”
Diwedd
Nodyn i Olygyddion
1. I drefnu cyfweliad, cysylltwch â Llinos Angharad, Swyddog Digwyddiadau a’r Cyfryngau ar 01766 772237 neu 07766 255509.
