
6 Chwefror 2009
Â’r byd yn dathlu 200 mlwyddiant geni Charles Darwin yr wythnos nesaf, mae’n briodol cofio fod gan y daearegwr le mawr i ddiolch i Eryri.
Yn Haf 1831, ymunodd Darwin â’i athro Daeareg Adam Sedgwick ar daith o gwmpas Gogledd Cymru ac yn ystod ei ymweliad â’r ardal hon, llwyddodd Darwin i ddatblygu ei sgiliau daearegol wrth iddo ddatblygu ei ddamcaniaeth ar ddethol naturiol. I gyd-fynd â dathlu ei eni, ac er mwyn taflu mwy o oleuni ar daith Darwin, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am ei ymweliad ag Eryri ar ei wefan, www.eryri-npa.gov.uk.
Dywed Naomi Jones, swyddog Bwrlwm Eryri,
“Fedrwn ni ddim bod yn hollol sicr o lwybr Sedgwick a Darwin drwy Ogledd Cymru oherwydd bod anghysondeb rhwng eu gohebiaeth a’u nodiadau ond fe wyddom y bu i Darwin deithio drwy Gonwy, Llanbedr y Cennin, Penmaenmawr ac Abergwyngregyn cyn teithio ymlaen i Gwm Idwal, Capel Curig, Dolwyddelan a Ffestiniog ac yna’n ei flaen i’r Bermo. Yn ôl Michael Roberts, arbenigwr ar Darwin, roedd y daith hon yn allweddol wrth ffurfio datblygiad daearegol Darwin. ”
Er iddo dreulio bron i dair wythnos yn Eryri yn ystod Awst 1831 fel rhan o’i brentisiaeth, dychwelodd i Ddyffryn Ogwen dros 10 mlynedd yn ddiweddarach i astudio mwy ar Gwm Idwal ac yn ystod yr ymweliad hwn y sylweddolodd Darwin mai rhewlifiant fu’n bennaf gyfrifol am ffurfio Cwm Idwal.
Ychwanegodd Alun Gruffydd, Pennaeth Addysg a Chyfathrebu’r Awdurdod,
“Rydan ni’n falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau 200mlwyddiant Charles Darwin o gofio pa mor bwysig fu’r ardal hon i Darwin. Anogwn bawb i ddilyn ôl ei droed a chrwydro’r llwybyr ddilynnodd o Gapel Curig i’r Bermo. Rydan ni’n ddyledus iawn i’r Natural History Museum yn Llundain am ddatblygu’r fenter ac i Gyngor Cefn Gwlad Cymru am godi ymwybyddiaeth o’r cynllun ac rydym yn ogystal yn falch fod sefydliadau eraill yn ymuno yn y dathliadau.”
Mae manylion taith Charles Darwin i’w gweld ar wefan yr Awdurdod a thros y misoedd nesaf, ychwanegir mwy o wybodaeth am y mannau yr ymwelodd Darwin â nhw yn Eryri.
Am fwy o wybodaeth am gysylltiad Darwin â Chymru ynghyd â gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir i ddathlu ei eni, ewch at www.amgueddfacymru.ac.uk
Diwedd
1. Llun a hawlfraint y llun – Cwm Idwal gan Pierino Algieri
