
17 Ebrill 2008
Fel rhan o Brosiect Tai Fforddiadwy Gwynedd bydd Cyngor Tref Dolgellau yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd a Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd i geisio sefydlu natur yr angen lleol am dai marchnad agored a thai fforddiadwy yn ardal Dolgellau.
Fel rhan o’r gwaith yma bydd pob cartref yn ardal Cyngor Tref Dolgellau yn derbyn ffurflen arolwg anghenion tai lleol. Pwrpas yr arolwg fydd darganfod beth yw anghenion tai yn lleol yn ogystal â darganfod faint o’r boblogaeth sydd mewn gwir angen tai fforddiadwy. Anogir pob cartref i gwblhau’r ffurflen arolwg oherwydd gall canlyniadau’r gwaith fod yn gyfrwng i gefnogi a chyfiawnhau unrhyw gynllun a weithredir yn y dyfodol i ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol.
Dywedodd Aled Evans, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd:
“Mae’n hanfodol i ddyfodol trefi a phentrefi gwledig fel ardal tref Dolgellau fod darpariaeth ddigonol o dai ar gyfer y boblogaeth leol. Mae’n bwysig iawn felly fod trigolion yr ardal yn manteisio ar y cyfle yma i ddarparu gwybodaeth am eu hanghenion tai.
“Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael eu hasesu gan Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd a minnau ac yn hynny o beth gaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei drin yn gwbl gyfrinachol.”
Bydd angen dychwelyd yr holiaduron i Aled Evans, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd erbyn dim hwyrach na dydd Gwener 16 Mai 2008.
Os am wybodaeth bellach am yr arolwg yma neu y Prosiect Tai Fforddiadwy yn gyffredinol, cysylltwch ag Aled Evans, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd ar 01286 679 498 neu drwy e-bost i taifforddiadwy@gwynedd.gov.uk.
Diwedd
