SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc >Cynllun Rheolaeth

Cynllun Rheolaeth

Cynllun Rheolaeth Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Cynllun Rheolaeth Parc Cenedlaethol Eryri (y Cynllun) yn ddogfen bwysig sy’n ymwneud â dyfodol yr ardal.  Darpara’r ddogfen hon y fframwaith polisi strategol ar gyfer y Parc Cenedlaethol cyfan, ac mae’n cynnwys Cynllun Gweithredu penodol fydd yn cael ei roi ar waith dros y ddwy flynedd nesaf.  

Er mai Awdurdod y Parc Cenedlaethol sydd wedi llunio’r ddogfen, mae wedi’i hanelu at bawb sydd â rhan yn nyfodol Eryri, boed y rheiny’n aelodau o’r cyhoedd, sefydliadau preifat neu eraill ac unigolion â diddordeb yn nyfodol yr ardal.  Yn ei hanfod, cyfrifoldeb a rennir yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau yfory.  

Mae ystod eang o sefydliadau wedi cynorthwyo’r Awdurdod i lunio’r Cynllun. Rhaid canmol ymrwymiad y partneriaid, ac mae ganddynt bellach rôl i weithredu amcanion a chamau gweithredu’r Cynllun.  

Bob dwy flynedd, caiff y camau gweithredu a gynhwysir yn y Cynllun eu hadolygu a’u monitro i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac er mwyn cyflwyno camau gweithredu newydd.  Ar ôl pum mlynedd, caiff y ddogfen gyfan ei hadolygu i sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol ac yn ddiweddar.  Bryd hynny, bydd yr Awdurdod yn gosod amcanion newydd, ac unwaith eto’n troi at sefydliadau partner ac aelodau o’r cyhoedd i ganfod eu barn.

Os hoffech chi weld y ddogfen, cliciwch yma.

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am y Cynllun a sut y gellid ei wella yn y dyfodol trwy gysylltu â ni:

e-bost: dyfodoleryri@eryri-npa.gov.uk
ffôn: 01766 770274


Adroddiad ar Gyflwr y Parc

Rhy’r Adroddiad ar Gyflwr y Parc wybodaeth a data am gyflwr y Parc Cenedlaethol. Fe’i defnyddir fel ffynhonnell ar gyfer Cynllun Rheolaeth Parc Cenedlaethol Eryri a dogfennau perthnasol eraill gael gwybod am newidiadau i adnoddau naturiol, hinsawdd, hunaniaeth ddiwylliannol, adnoddau cymdeithasol economaidd a phatrymau ymwelwyr a hamdden Eryri.  Er ei fod yn cynnwys ystod eang o wybodaeth, fe’i defnyddir yn bennaf i roi ciplun o iechyd y Parc Cenedlaethol.  

Yn yr un modd â’r Cynllun Rheolaeth, caiff ei adolygu bob pum mlynedd, a chaiff ei ddiwygio’n unol ag unrhyw newidiadau i’r Cynllun Rheolaeth yn y dyfodol.  

Os hoffech chi weld y ddogfen, cliciwch yma.

Os oes gennych unrhyw sylwadau yn gysylltiedig â’r Adroddiad ar Gyflwr y Parc, rhowch wybod i ni:

e-bost: dyfodoleryri@eryri-npa.gov.uk
ffôn: 01766 770274

01766 770274.

Dyfodol Eryri
Eich dyfodol Dweud eich dweud
Betws y Coed
Nant Gwynant
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk