SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc >Sut i Gwyno

Sut i Gwyno

Fel rheol, gellir ymdrin ag unrhyw gwynion yn y fan a’r lle trwy drafod y mater â’r sawl sy’n darparu’r gwasanaeth. Os na ellir datrys y broblem yn y modd hwn, neu os ydych yn anfodlon â’r ymateb a gafwyd, gall yr aelod o staff dan sylw roi enw a manylion cyswllt uwch reolwr ei adran i chi, a’ch gwahodd i fynd ymhellach â’r mater.

Gallwch wneud cwyn ysgrifenedig, naill ai trwy lythyr, neu trwy ddefnyddio’r ffurflen sydd ynghlwm wrth y daflen hon, a’i hanfon at y rheolwr perthnasol. Os nad oes gennych enw cyswllt, cyfeiriwch y llythyr at Bethan Wyn Hughes, Pennaeth Gweinyddol a Gofal Cwsmer yn:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Gallwch hefyd wneud cwyn dros y ffôn, mewn person neu drwy anfon ffacs neu e-bost i:

Ffôn: 01766 770274
Ffacs: 01766 771211
Ebost: parc@eryri-npa.gov.uk

Sylwer na chaiff cwynion dienw, athrodus neu â chymhelliad hiliol eu harchwilio.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cwyn un ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Lawrlwythwch y Ffurflen Gwyno (word)

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cam 1

Os ydych wedi cwyno’n uniongyrchol i staff y gwasanaeth dan sylw, ac nid ydych yn fodlon â’r ymateb a gawsoch, fe gewch gyflwyno cwyn swyddogol. Byddwn yn sicrhau:
• eich bod yn cael cydnabyddiaeth cyn pen 5 niwrnod gwaith; ac
• yn cael ymateb llawn cyn pen 15 niwrnod gwaith.

Cam 2

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gafwyd, bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sy’n gyfrifol am y maes gwaith dan sylw, a bydd ef/hi yn sicrhau:
• eich bod yn cael cydnabyddiaeth cyn pen 5 diwrnod gwaith; ac
• eich bod yn cael ymateb cadarnhaol cyn pen 15 diwrnod gwaith. Os nad yw hynny’n bosibl, anfonir eglurhad ynglŷn â’r oedi atoch cyn pen 15 diwrnod gwaith, ac ymateb cadarnhaol mor fuan ag y bo modd ar ôl hynny.

Cam 3

Os ydych yn dal yn anfodlon, yna gellid symud ymlaen mewn dwy ffordd:

1. Gallwch fynd â’ch cwyn at yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yn syth (gweler manylion cyswllt islaw); neu

2. Gallwch wneud cais i gyfeirio eich cwyn at y Panel Cwynion, sy’n cynnwys Aelodau’r Awdurdod fel a ganlyn:
Y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio (os yw’r gŵyn yn cyfeirio at fater cynllunio), Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau.

3. Yn y lle cyntaf, bydd aelodau’r Panel yn adolygu eich cwyn o bell, ynghyd â’r holl ddogfennau cysylltiedig, ac yna’n penderfynu a oes angen cynnal cyfarfod y Panel ai peidio. Os yw’r Panel i gyd yn cytuno bod eich cwyn yn ddisylwedd neu’n annilys, neu os credir yr ymdriniwyd â’r mater yn effeithiol eisoes o dan Gam 1 a 2 o’r Drefn Gwyno, bydd Aelodau’r Panel yn gallu cytuno ar ymateb ffurfiol yn electronig.

Os yw aelodau’r Panel yn ystyried bod angen ymchwilio ymhellach i’ch cwyn, bydd y Panel Cwynion yn cael ei alw ynghyd i ystyried y mater yn llawn.

Cam 4

Os yn Cam 3 fuoch a’ch cwyn i’r Panel Cwynion, ac rydych yn dal yn anfodlon, gallwch fynd â’ch cwyn at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Bydd y Swyddog Monitro’n delio ag unrhyw gwynion ar y lefel hon ar ran yr Awdurdod, ac os bydd yr Ombwdsmon yn darganfod unrhyw achosion o gamweinyddu cânt eu hystyried gan y Panel Cwynion.

Gellir cysylltu â’r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus trwy’r post, ffôn neu e-bost:

Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CAERDYDD
CF35 5LJ


Ffôn: 0845 601 0987 (tâl galwad lleol)
Ffacs: 01656641199
Ebost: ask@ombudsman-wales.org.uk
Gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk

Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk