SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc >Dweud eich Dweud

Dweud eich Dweud

Ein dau bwrpas statudol fel y’i diffinnir yn Neddf yr Amgylchedd 1995 yw:

• Gwarchod a gwella’r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol; a
• Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc.

Aiff y Ddeddf yn ei blaen i ddweud bod yn rhaid i ni (yr Awdurdod) feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol yn y Parc Cenedlaethol wrth fodloni’r pwrpasau.

I gyflawni’r pwrpasau hyn rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda thrigolion lleol, busnesau a sefydliadau partner er mwyn gwneud y gorau y gallwn dros Barc Cenedlaethol Eryri.

Rydym wastad yn awyddus i glywed eich barn a’ch syniadau ar sut ‘rydym ni’n perfformio ac mae’n rhan bwysig o’r broses hon hefyd - felly achubwch y cyfle hwn i ddweud eich dweud!


Arolygon Cyfredol


Sut brofiad oedd eich ymweliad â Pharc Cenedlaethol Eryri?
Treuliwch ychydig o funudau yn cwblhau ein holiadur ar-lein, ac ar ddiwedd yr arolwg cewch roi eich enw i mewn i raffl sy’n rhad ac am ddim i ennill un ai tocyn stryd fawr werth £50 neu fasged foethus yn llawn dop o gynnyrch blasus lleol.

Cliciwch yma i ddechrau’r arolwg


Eich Sylwadau am ein Gwefan
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn chwilio am ffyrdd i wella'i wefan, ac mae wastad yn ceisio sicrhau bod y profiad o ymweld a'r wefan yn un hawdd a phleserus. Cwblhewch yr arolwg islaw os gwelwch yn dda i’n helpu i ddatblygu'r wefan yn y dyfodol.

Cliciwch yma i ddechrau’r arolwg


Eich barn am ein defnydd o’r iaith Gymraeg
Rydym yn Awdurdod hollol ddwyieithog, sy’n golygu ein bod yn gweithredu ar y sail bod yr iaith Gymraeg a’r Saesneg gyda statws cyfartal. Gadewch i ni wybod am eich profiadau o gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gwblhau’r arolwg byr yma os gwelwch yn dda.

Cliciwch yma i ddechrau’r arolwg


Swyddfa'r Parc Cenedlaethol Eryri
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk