
Mae'r Ddeddf uchod yn rhoi'r hawl i chi gael gwybodaeth gennym mewn dwy ffordd:
• Trwy'r Cynllun Cyhoeddi a'r Canllaw i Wybodaeth, sef dogfennau sy'n dangos y math o wybodaeth a gyhoeddir gan yr Awdurdod a ffurf y wybodaeth.
• Gwneud cais penodol am wybodaeth.
Sut i wneud Cais
Mae'n rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig. Dylech nodi eich enw a’ch manylion cyswllt ynghyd â pha wybodaeth yr hoffech ei weld.
Ffurf y Wybodaeth
Byddwn yn ceisio darparu'r wybodaeth i chi yn y ffurf y gofynnwyd amdano, os yw hynny’n rhesymol.
Eithriadau
Mae gennych yr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw wybodaeth sy'n cael ei gadw gan yr Awdurdod. Fodd bynnag, gellir gwrthod rhyddhau gwybodaeth os yw un o'r eithriadau a geir o dan y Deddf yn berthnasol. Ceir eithriadau llwyr neu eithriadau amodol. Cyn defnyddio eithriad amodol mae'n rhaid i ni ystyried a yw er lles y cyhoedd i ddatgelu'r wybodaeth ai peidio.
Amser
Fel rheol, mae gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb i'ch cais ond fe allwn ymestyn hyn os oes angen ystyried eithriadau sy'n destun prawf lles y cyhoedd.
Ffioedd
Mae gennym yr hawl i godi ffi arnoch ond mae'n rhaid i ni roi gwybod i chi ymlaen llaw os ydym yn bwriadu gwneud hyn.
Trefn Gwyno
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb yr ydych wedi ei dderbyn, mae gennym drefn gwyno ffurfiol i'w dilyn. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein Trefn Gwyno.
Cynllun Cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth
Ers y 1af o Ionawr 2009, mae'n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu cynllun enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â pharatoi Canllaw Gwybodaeth i fynd gyda'r cynllun. Atodir copïau islaw.
Cynllun Cyhoeddi (pdf)
Canllaw Gwybodaeth (word)
