SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc >Cymunedol

Strategaeth Gymunedol

Beth yw Strategaeth Gymunedol?

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau unedol yng Nghymru i baratoi strategaethau cymunedol i hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ardaloedd a chyfrannu tuag at gyflawni datblygiad cynaladwy.

Bydd Strategaethau Cymunedol yn darparu fframwaith strategol ar gyfer yr holl gynlluniau a strategaethau eraill sy’n berthnasol i ardaloedd cynghorau unedol.   Bydd hyn yn gwella integreiddiad rhwng gweithgareddau’r sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ac yn cynorthwyo i osgoi dyblygu gwaith.

Mae’r prosesau Strategaeth Gymunedol ar gyfer ardal y ddau awdurdod unedol sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri (sef Gwynedd a Chonwy) wedi’u sefydlu’n iawn erbyn hyn.


Beth yw nod Strategaeth Gymunedol?

Mae’r broses sydd a wnelo’r Strategaeth Gymunedol yn dod ag ystod eang o elfennau ‘diddordeb’ a chynrychioliadol bywyd ynghyd mewn cymuned.  Mae’n anelu at gytuno beth yw’r flaenoriaeth o ran gweithrediadau er mwyn:

  • Gwella ansawdd bywyd ar gyfer y bobl leol;
  • Cyfrannu tuag at ddatblygiad cynaladwy yr ardal;
  • Darparu mecanwaith i drafod anghenion, cyfleoedd a dyheadau lleol;
  • Darparu ffocws ar gyfer cydweithio, a;
  • Helpu cynghorau i ddatblygu polisïau corfforaethol.


Beth yw’r elfennau allweddol yn y broses?

  • Sefydlu trefniadau partneriaeth.
  • Sefydlu fframwaith cefnogol i wneud y gwaith.
  • Sefydlu perchnogaeth ar ran y gymuned ac ymwneud teg ac effeithiol yn y gwaith.
  • Rhannu adnoddau digonol i gyflawni’r gwaith.
  • Datblygu sianelau cyfathrebu effeithiol er mwyn rhoi gwybod i bobl beth yw’r broses.


Sut bydd y broses yn datblygu?

Bydd y gwaith o baratoi ac adolygu’r strategaethau cymunedol yn broses barhaus.  Bydd Cynllun Gweithredu yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn yn manylu beth yw’r blaenoriaethau gwaith ar gyfer y deuddeg mis yn dilyn hynny.  Bydd Partneriaethau'r Strategaethau Cymunedol yn adolygu’r strategaethau cymunedol yn gyfnodol, bob tair neu bedair blynedd i ddechrau, er mwyn adlewyrchu anghenion a sefyllfaoedd sy’n newid.

Adnabyddir Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel sefydliad sy’n fudd-ddeilydd allweddol yn y broses o lunio Strategaeth Gymunedol yng Ngwynedd a Chonwy, a bydd yn parhau i gael ei gynrychioli ar y Byrddau Llywio a phan fydd y Partneriaethau yn ymgynnull.

Ysbyti Ifan
Dolgellau
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk