SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc > CAE >Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos 1


Enw’r Prosiect: Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Cynaladwy (WISE)
Enw’r ymgeisydd: Y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT)
Cyfanswm Cost y Prosiect: £5,167,034.00
Cyfraniad CAE (9%)*: £30,000.00


Gwybodaeth Grŵp / Sefydliad:

Sefydlwyd y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CDA) ym 1974 fel sefydliad ymchwil, arddangos ac addysg gyda’r nodau o roi gwybod i bobl sut i fabwysiadu dulliau mwy cynaladwy o fyw, a’u galluogi i wneud hynny.  Mae’r Ganolfan mewn chwarel lechi segur ger Corris, Machynlleth.

Mae arddangosfeydd CDA yn cynnwys; toeau ffotofoltäig, tyrbinau gwynt a dŵr, rheolaeth gwastraff biolegol, rheilffordd hydro, enghraifft orau o adeiladau sy’n ymollwng lefel isel o garbon, gerddi organig a gwasanaeth gwybodaeth a siopa.

At hynny, bu’r ganolfan yn hyrwyddo rhaglen o gyrsiau preswyl trwy gydol y flwyddyn, sy’n amrywio o gyrsiau penwythnos sy’n ymwneud â hobïau, hyd raglenni MSc llawn, a hynny ers 30 blynedd.  Cyfanswm yr ymwelwyr i’r ganolfan bob blwyddyn yw oddeutu 65,000.


Cefndir y Prosiect:

Adeiladu Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Cynaladwy (SCAC), sydd yn gymhlyg o adeiladau modern at ddibenion ymchwil a datblygiad, trosglwyddo gwybodaeth a chefnogi busnes.  Mae’r datblygiad 2105m² yn cynnwys labordy, 3 gweithdy technegol, 3 ystafell seminar, awditoriwm 200 sedd, cyfleusterau arlwyo newydd a llety ar gyfer 48 o bobl.  Mae yn cynnwys y dyluniad cynaladwy diweddaraf, â waliau pridd cadarn ar ongl, offer monitro ynni, to ffotofoltäig integredig, y dyluniad ynni heulol gorau sydd ar gael, cyfleusterau compostio, toiledau arbed dŵr a gerddi pen to.  Mae ei lleoliad ar ffin y safle, a mae yn ychwanegu at daith yr ymwelwyr o amgylch y safle ac yn arddangos pensaernïaeth a thechnoleg cynaladwy arloesol sydd yn ceisio cydweddu â’r cefn gwlad sydd o’i amgylch.

Mae’r rhan fwyaf o’r seminarau amgylcheddol yn y CDA wedi cael eu cynnal mewn adeiladau sy’n groes i’r materion a drafodir.  Mae adeilad SCAC yn arddangos enghraifft amnewidiadwy a chost effeithiol o adeilad a thechnoleg cynaladwy i ysbrydoli myfyrwyr, ymwelwyr a busnes a chael syniadau ohono.  Mae y dechnoleg ddiweddaraf, megis adeiladau, ynni, dŵr, carthffosiaeth, monitro a systemau rheolaeth contract yn cael eu harddangos er mwyn i bobl ymwneud â hwy.

Oedd cynnydd aruthrol yn y galw ar y CDA i ddarparu lleoliad i gynnal digwyddiadau addysgol cynaladwy mwy.  Mae SCAC yn defnyddio 30 mlynedd o brofiad y CDA i addysgu amrediad eang o gyfranogwyr mewn egwyddorion datblygiad cynaladwy, a gwneud y gorau o allu Cymru i fanteisio ar farchnadoedd a chyfleoedd newydd.

Nod y project ydy sicrhau bod addysg gydol oes mewn technoleg gynaladwy ar gael i bawb yn ogystal â bod yn fforddiadwy.  Mae’r wybodaeth a’r offer sy’n hanfodol i gael effaith bositif real a pharhaol ar ddatblygiad cynaladwy ar gael i bobl o bob rhan o’r gymuned.

Mae y cyrsiau a’r seminarau a gynhelir yn SCAC yn archwilio materion megis defnydd tir, cynhyrchu bwyd, adeiladau, cludiant a rheoli gwastraff.


Amcanion:

  • Hyrwyddo defnydd cynaladwy ac effeithlon o adnoddau naturiol,
  • Hyrwyddo addysg amgylcheddol a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o faterion amgylcheddol,
  • Manteisio ar y cyfle economaidd i arallgyfeirio a thwf eco-dwristiaeth ac eco-gyrsiau yn y CDA,
  • Ymestyn sail economaidd y cymunedau gwledig, trwy ychwanegu at y cyfleoedd i arallgyfeirio mewn busnes (gan gynnwys coedwigaeth, amaethyddiaeth, adeiladu, creu ynni a thwristiaeth), grwpiau gwirfoddol ac amgylcheddol ac entrepreneuriaid unigol,
  • Peri fod y CDA a mentrau gwledig eraill yn fwy cystadleuol trwy wella’r cyfleoedd i fod yn fwy effeithlon a gostwng costau trwy ddatblygiad cynaladwy,
  • Gostwng colledion economaidd o’r economi leol trwy rwydweithio a datblygu cadwyni cyflenwi pryniant lleol, ar gyfer y CDA a sefydliadau eraill yn y Canolbarth,
  • Ymestyn y farchnad dwristiaeth a’r incwm i’r Canolbarth drwy wneud pobl yn fwy ymwybodol fod yr ardal yn arwain mewn eco-dwristiaeth a gwychder cynaladwy.
  • Rhoi gwybod i 65,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ynghylch materion datblygiad cynaladwy a’u gwneud yn rhan ohono,
  • Sicrhau bod mwy o ymwelwyr yn gallu lletya yn y CDA,
  • Peri fod cynnydd yn nifer y rhai sy’n cyfranogi yn y seminarau a’r cynadleddau amgylcheddol o 200 yn 2002 i 1400 yn 2007.
  • Cynnig mwy o gyrsiau i bobl leol ac ymwelwyr,
  • Adeiladu cyfleusterau erbyn y dyddiad a fwriadwyd er mwyn cwrdd â gofynion graddfa wychder Sefydliad Ymchwil Adeiladu BREEM ac i fynd cam ymhellach na’r meini prawf arfer da hynny ar gyfer perfformiad amgylcheddol.
  • Defnyddio a monitro effeithiolrwydd y deunyddiau, systemau ynni, systemau biolegol a thechnegau adeiladu arloesol yn ystod y cyfnod datblygu.


Allbynnau:

Mae’r project hwn yn un hynod uchelgeisiol a phellgyrhaeddol sy’n llawn potensial, a all fod yn un o brojectau arloesol cenedlaethol Cymru o ran datblygiad cynaladwy.  Mae’r ymgeisydd wedi llwyddo i ennill lefel dda o gefnogaeth ac ewyllys da o’r Cynulliad Cymru, Prifysgol Cymru a nifer o sefydliadau eraill.  At hynny, mae’r gymuned leol yn cefnogi’r project ac yn awyddus iddo lwyddo.  

O ran cyfanswm costau’r project, mae’r project hwn yn un o’r mwyaf y gofynnwyd i CAE ei gefnogi, fodd bynnag, mae hefyd yn un o’r projectau â phroffil uchaf â’r sgôr uchaf.  Mae project SCAC yn cwrdd â phob maen prawf a osodwyd gan CAE ac mae’n cynnwys nifer fawr o’r hyn a olygir gan ddatblygiad cynaladwy.

CAE Logo
Beddgelert
Betws y Coed
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk