SNPA Print Header
Rydych chi yma: Awdurdod y Parc >CAE

CAE - Cyflwyniad

Acronym Cymraeg yw CAE, sy’n golygu Cronfa Arbrofol Eryri, a chyfeirir at y Gronfa honno fel ‘Sustainable Development Fund’ yn Saesneg.  Mae’n gronfa o £200,000 y flwyddyn sy’n cael ei gweinyddu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Diben y gronfa hon yw cefnogi prosiectau fydd yn helpu i wella ansawdd bywyd yn y Parc Cenedlaethol.

Prif bwrpas CAE yw arddangos, ar lefel leol, yr egwyddorion cynaladwyedd y mae dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w hyrwyddo o dan y pwerau a osodwyd arno gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae’r cynllun hwn yn ceisio arloesedd, a bydd yn annog amrywiaeth eang o brosiectau.

Mae cronfa gyffelyb hefyd ar gael ar gyfer prosiectau yn y Parciau Cenedlaethol eraill yng Nghymru yn ogystal â’r pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yng Nghymru.


Nodau ac Amcannion:

Y nod cyffredinol yw: trwy gyfrwng partneriaeth, datblygu a phrofi dulliau o sicrhau ffordd o fyw sy’n fwy cynaladwy mewn ardal wledig nodedig o hardd ac amrywiol, gan ddiogelu a gwella nodweddion lleol y diwylliant, bywyd gwyllt, y dirwedd, y gymuned a’r defnydd a wneir o’r tir.  

Mae gan y cynllun dri phrif amcan:

• chwilio am ddulliau o hyrwyddo’r 4 o egwyddorion cynaladwyedd (gweler isod) gan ddymchwel y rhwystrau sy’n gallu llesteirio cynaladwyedd
• datblygu modelau ar gyfer rheoli cefn gwlad yn gynaliadwy y gellid eu cymhwyso’n ehangach yng Nghymru
• peri fod pobl yn fwy ymwybodol o gynaliadwyedd, ac yn ei ddeall yn well

Mae hefyd tri amcan eilradd:

• datblygu prosiectau sy’n rhoi sylw i broblemau byd-eang ar lefel leol fel bod cymunedau, diwylliant  ac iaith Eryri’n tyfu ac yn ffynnu yn yr 21ain ganrif.
• datblygu prosiectau sy’n cwrdd â meini prawf cynaladwyedd yn arloesol.
• datblygu partneriaethau fydd yn para, a gweithgarwch cymunedol fydd yn cyflwyno cynaladwyedd yn lleol ar ôl i gronfa CAE ddod i ben.


Pa Brosiectau Fydd yn Cael eu Hariannu?

Gellir ariannu ystod eang o brosiectau. Er mai Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n gweinyddu’r gronfa, gall unrhyw grŵp neu sefydliad gyflwyno prosiectau; ac er bod yn rhaid iddynt gytuno â phwrpasau’r Parc Cenedlaethol, mae’n bosibl iddynt roi pwyslais ar agweddau economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol yn hytrach na dim ond agweddau amgylcheddol. Bydd y rhan fwyaf o’r prosiectau o fewn y Parc Cenedlaethol ond gellir ariannu rhai y tu allan os byddant yn dod â budd amlwg i’r Parc.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn debygol o gynnwys rhai o’r elfennau a ganlyn, neu bob un ohonynt:

• Gwaith ymarferol – o’r syniadau mwyaf lleol i brosiectau sy’n cwmpasu’r holl Barc.
• Datblygiad y prosiect, megis costau swyddogion, datblygu grwpiau a phartneriaethau  
• Gwaith ymchwil, fydd yn cynnwys dysgu o syniadau da o leoedd eraill
• Codi ymwybyddiaeth a hyfforddi am gynaliadwyedd - mewn ffyrdd meddyliol neu ymarferol


Cymhwysedd

Bydd yn rhaid i brosiectau:

• Fod yn gynaliadwy – cysylltu materion cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd trwy annog y cyhoedd i gymryd rhan;
• Ddangos yn glir fod cymunedau’n eu cefnogi’n wirioneddol neu’n cymryd rhan ynddynt;
• cefnogi un neu ragor o amcanion y cynllun;
• Gydweddu â strategaethau lleol a chenedlaethol allweddol, e.e. Agenda Leol 21;
• Ddod â sefydliadau at ei gilydd mewn partneriaethau i fynd i’r afael â phroblemau;
• Gydymffurfio â’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddelio â’r cyhoedd (e.e. deunydd cyhoeddusrwydd ac arwyddion) fel y’i nodwyd yng Nghynllun Iaith Gymraeg Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n:

• Goresgyn trefniadau sefydliadol, perthnasau a diwylliannau allai fod yn rhwystro cynaladwyedd;
• Arddangos arloesedd neu arfer gorau;
• Cynnwys pobl ifanc;
• Cefnogi mentrau cludiant cynaladwy yn y gymuned sydd wedi’u dylunio i leihau’r ôl-troed carbon;
• Cefnogi mentrau cludiant cynaladwy i ymwelwyr, gan gynnwys mynediad i fannau sydd fwyaf poblogaidd ymhlith ymwelwyr;    
• Cefnogi dulliau marchnata bwyd cynaladwy a hyrwyddo a defnyddio cynnyrch lleol;
• Hyrwyddo defnydd cynaladwy o adnoddau dŵr, trwy gefnogi prosiectau sydd wedi’u dylunio i hyrwyddo mynediad at ddŵr;  
• Troedio lle nad oes adnoddau eraill yn bodoli;
• Gallu cael cyfraniadau (arian neu nwyddau) o ffynonellau eraill;
• Hyrwyddo dealltwriaeth ynglŷn â chynaliadwyedd yn ehangach;
• Ychwanegu gwerth neu ddimensiwn newydd at brosiectau cynaladwyedd sy’n bodoli’n barod;
• Cefnogi grwpiau anabl a rhai dan anfantais yn lleol;
• Ennyn cefnogaeth gan fusnesau lleol, a chynnig cefnogaeth iddynt hwythau;  
• Annog cynhwysiad cymdeithasol

Mae’r pwyslais ar arloesedd ond gall hyn olygu syniadau sy’n newydd i’r ardal hon neu fenter newydd ar gyfer grŵp penodol ynghyd â syniadau cwbl arloesol.

Rhaid i brosiectau ddangos eu bod yn cyd-fynd â strategaethau uwch megis y Strategaeth Gymunedol, Strategaeth Amgylcheddol, Cynllun Gweithredu Datblygiadau Cynaladwy LlCC, y Cynllun Datblygu Gwledig ayb. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach trwy gysylltu â’ch cyngor sir lleol neu Lywodraeth Cynulliad Cymru (gweler y cysylltiadau defnyddiol).


Pwy all Wneud Cais?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all wneud cynnig am nawdd. Fodd bynnag, disgwylir mai sefydliadau, grwpiau cymunedol a phartneriaethau eraill fydd yn llunio’r ceisiadau mwyaf llwyddiannus. Gall unigolion neu fusnesau unigol fod yn rhai sy’n elwa os bydd eu prosiect yn dod â budd amlwg i’r gymuned ehangach.


Y Broses Asesu

Bydd Panel a ffurfiwyd yn arbennig o gynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn asesu’r holl geisiadau am grantiau dros £1,000. Bydd y Panel yn cyfarfod yn ôl y gofyn – oddeutu unwaith bob deufis yn amodol ar gael digon o geisiadau a bod digon o arian cyllido ar gael (i gael gwybod beth yw’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, cysylltwch â’r Swyddog Prosiect CAE). Bydd y Panel hwn yn cael ei wasanaethu gan Swyddog Prosiect CAE fydd hefyd ar gael i drafod a datblygu syniadau prosiectau gyda darpar ymgeiswyr. Caiff grantiau o hyd at £1,000 eu hasesu gan y Swyddog Prosiect CAE ac yn amodol ar yr arian cyllido, nid oes unrhyw ddyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno.


Monitro Prosiectau

Caiff ymweliadau monitro eu trefnu rhyngoch chi â’r Swyddog Prosiect CAE petai’r cais yn llwyddiannus. Dylid anfon copïau o unrhyw ddeunydd hyrwyddol, datganiadau i’r wasg a/neu unrhyw ddogfennau perthynol eraill a gynhyrchwyd fel rhan o’ch prosiect at y Swyddog Prosiect CAE fel rhan o’r broses monitro.

CAE Logo
Beddgelert
Betws y Coed
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk