SNPA Print Header
Rydych chi yma: Naws am Le > Chwedloniaeth >Math fab Mathonwy

Math fab Mathonwy

Math fab Mathonwy oedd arglwydd Gwynedd ac roedd Pryderi fab Pwyll yn arglwydd ar un cartref ar hugain yn ne Cymru.

Byddai Math ond yn fyw tra fyddai ei draed yn nghôl morwyn, oni bai fod rhyfel yn ei rwystro rhag gwneud hynny. Ei forwyn oedd Goewin ferch Pebin. Goewin oedd y forwyn harddaf y gwyddai neb amdani ac roedd hi’n byw yn Nôl Pebin, Arfon. Caer Dathyl yn Arfon oedd cartref Math a byddai Goewin bob amser yn ei gwmni.

Oherwydd yr amod ar ei fywyd, ni allai Math deithio o amgylch ei wlad a’i amddiffyn rhag ymosodiadau ac felly gwnaethpwyd hynny gan ei neiant, Gilfaethwy fab Dôn ac Efeydd fab Dôn.

Yn anffodus, roedd Gilfaethwy wedi disgyn mewn cariad â Goewin ac roedd Gwydion, ei frawd, yn sylweddoli hynny a gwnaeth addewid i helpu Gilfaethwy i ennill Goewin, trwy ddechrau rhyfel.

Dywedodd Gwydion wrth Math, fod gan Pryderi foch arbennig iawn, ac y byddai’n beth doeth iawn iddo gael gafael ar rai ohonynt. Felly, aeth Gwydion i’r de a llwyddodd i berswadio Pryderi i gyfnewid y moch am filgwn a cheffylau gyda choleri a chyfrwyon aur a deuddeg tarian euraid.

Ond rhith oedd y milgwn, y ceffylau a’r tarianau.

Bu’n rhaid i Gwydion deithio yn ôl i Wynedd ar frys, gan y byddai’r rhith ond yn parhau am ddiwrnod ac roedd rhaid iddynt gyrraedd yn ôl i Wynedd cyn i Pryderi sylweddoli’r twyll. Erbyn i Gwydion a’u wŷr gyrraedd Gwynedd, roedd byddinoedd Pryderi ar eu ffordd tua’r gogledd a bu’n rhaid i Math adael ei gartref, i ymuno â’r frwydr.

Y noson honno, treisiodd Gilfaethwy fab Dôn, Goewin ferch Pebin, yng ngwely Math fab Mathonwy. Pan ddychwelodd Math o’r frwydr, wedi lladd Pryderi, aeth at Goewin, i roi ei draed yn ei chôl. Dywedodd Goewin wrth Math am frad Gilfaethwy a Gwydion a dywedodd yntau y byddai’n gwneud yn iawn am eu sarhad ac y byddai’n cymryd Goewin yn wraig iddo.

Roedd rhaid i Arianrhod gamu dros hudlath Math er mwyn profi ei bod yn forwyn, ond wrth iddi wneud hynny, ymddangosodd babi. Sgrechiodd y plentyn a rhedodd Arianrhod i ffwrdd, gan adael rhywbeth ar ei hôl. Cuddiodd Gwydion y peth mewn cist wrth droed ei wely.

Bedyddiwyd plentyn Arianrhod a rhoddwyd yr enw Dylan iddo. Pan fedyddiwyd Dylan, daeth terfysg a phan ddaeth y môr, gallai Dylan nofio fel pysgodyn. Felly, fe’i enwyd yn Dylan Ail Don.

Un bore, deffrodd Gwydion i glywed sgrech yn dod o’r gist ger troed ei wely. Daeth o hyd i fabi yno a bu’r plentyn yn byw yn llys Math, nes ei fod yn bedair mlwydd oed.

Bryd hynny, aeth Gwydion ag o at Arianrhod, er mwyn iddi hi ei enwi, ond gwrthododd wneud hynny a rhoddodd dynged arno:        

“Mi dyngaf dynged arno na chaiff enw hyd oni chaiff hynny gen i”.

Dyma sarhad ofnadwy ac felly aeth Gwydion ati i dwyllo Arianrhod i roi enw ar y plentyn.   

Hudodd Gwydion long ar lan yr Afon Fenai, a’i hwylio i borthladd Caer Arianrhod, a newidiodd ei olwg ef a’r plentyn. Twyllodd y ddau, Arianrhod, a dweud wrthi mai cryddion oeddynt a gofynodd hi wrthyn nhw i greu pâr o esgidiau ar ei chyfer. Daeth Arianrhod ar fwrdd y llong, er mwyn i Gwydion a’r bachgen gael mesur ei thraed a thra’r oedd Arianrhod ar fwrdd y llong, daeth dryw bach yno a tharawodd y bachgen ef, rhwng gewyn ac asgwrn ei goes gyda nodwydd. Meddai Arianrhod: (t.64)

“Duw â wyr, â llaw gelfydd y trawodd yr un golau ef.”

Yna dywedodd Gwydion:

“Ie, melltith arnat. Fe gafodd ef enw ac enw digon da ydyw. Lleu Llaw Gyffes ydyw bellach.”

Diflanodd swyn y llong a rhoddodd Arianrhod dynged arall ar Lleu: na fyddai fyth yn cario arfau, oni bai y byddai hi’n eu rhoi iddo ef.

Aeth Gwydion a Lleu i Ddinas Dinlle, lle dysgodd Lleu i farchogaeth a phan ddaeth yr amser i Lleu gael arfau, newidiodd Gwydion ei edrychiad ef a Lleu ac aeth y ddau i Gaer Arianrhod a honni mai beirdd o Forgannwg oeddynt. Rhoddodd Arianrhod groeso cynnes iddyn nhw ond drannoeth, daeth Arianrhod i’w deffro a dweud wrthynt bod y llys dan fygythiad rhyfel. Rhoddodd Arianrhod arfau i Lleu a dywedodd Gwydion wrthi ei bod wedi rhoi arfau i Lleu. Roedd Arianrhod yn lloerig a rhoddodd hi dynged arall ar Lleu: na fyddai fyth yn cael gwraig o’r ddynol ryw.

Achosodd hyn gryn broblem i Gwydion a Lleu ond dywedodd Math y byddai ef yn creu gwriag i Lleu, o flodau’r dderwen, yr erwain a’r banadl. Rhoddwyd yr enw ‘Blodeuwedd’ arni. Rhoddodd Math Gantref Didoning (sef Eifionydd ac Ardudwy), cantref gorau ei deyrnas i Lleu a sefydlodd Lleu ei gaer ym Mur y Castell.

Un diwrnod, aeth Lleu i ymweld â Math yng Nghaer Dathyl, a daeth Blodeuwedd ar draws Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, a oedd yn hela yn ardal Mur y Castell. Yn ôl yr arfer yn y cyfnod hwnnw, pan basiodd Gronw Pebr borth Mur y Castell ar ei ffordd gartref, croesawodd Blodeuwedd ef i’r llys. Ar yr edrychiad cyntaf, disgynodd y ddau mewn cariad â’i gilydd. Penderfynodd y ddau mai’r unig ffordd y gallant fod â’i gilydd oedd i Blodeuwedd ddarganfod sut gellid lladd Lleu, gan esgus ei bod yn poeni amdano.

Dywedodd Blodeuwedd wrth Lleu ei bod yn poeni am ei farwolaeth. Diolchodd iddi am ei phoen, ond na fyddai’n hawdd ei ladd: byddai’n rhaid iddo gael ei drywanu â gwaywffon a gynhyrchwyd tros gyfnod o flwyddyn, yn ystod awr yr offeren. Ni châi ei ladd tra fyddai y tu mewn nag y tu allan, na thra bod ei draed ar lawr. Y ffordd orau i’w ladd fyddai iddo fod ag un droed ar fwch, a’r llall ar faddon ger afon, dan ffrâm gyda tho da.

Rhoddodd Blodeuwedd yr wybodaeth i Gronw Pebr a chreodd Gronw waywffon tros gyfnod o flwyddyn. Perswadiodd Blodeuwedd, Lleu, i ddangos iddi sut fyddai’n rhaid iddo sefyll i gael ei ladd. Paratowyd y baddon, y ffrâm a’r to a safodd Lleu ag un droed ar ochr y baddon a’r llall ar gefn bwch. Tarawodd Gronw ef yn ei ochr â’r gwaywffon. Trodd Lleu yn eryr. Rhoddodd sgrech ddiasbedain a hedfan i ffwrdd.  

Bu Gronw a Blodeuwedd yn cyd-fyw yn llawen ym Mur y Castell a llwyddodd Gronw i oresgyn cantref Ardudwy.

Siomiwyd Math a Gwydion yn fawr gan yr hanes ac aeth Gwydion ar daith drwy Wynedd, Powys ac Arfon i chwilio am Lleu. Daeth o hyd i eryr yn Nantlle, Arfon a chredodd mai Lleu ydoedd. Canodd benillion i’r eryr, er mwyn sicrhau mai Lleu oedd o:

“Derwen a dyf rhwng dau lyn
Yn cysgodi’n dywyll awyr a glyn.
Oni ddywedaf i gelwydd
O flodau Lleu y mae hyn.

Derwen a dyf mewn maes uchel,
Nis glywch glaw, nis tawdd gwres.
Cynhaliodd ugain dawn.
Ar ei brif, Lleu Llaw Gyffes.

Derwen a dyf dan lechwedd,
Noddfa tywysog hardd.
Oni ddywedaf i gelwydd
Fe ddaw Lleu i’m harffed.”

Ar ôl i Gwydion ganu’r penillion, daeth yr eryr ato. Pwyntiodd ei hudlath at yr eryr ac ymddangosodd Lleu o’i flaen, yn ei ffurf dynol. Edrychai’n llwm ac yn ddi-galon, ac yn denau iawn.

Gofalwyd tros Lleu yng Nghaer Dathyl, ac ymhen y flwyddyn, roedd wedi gwella. Bryd hynny, aethpwyd ati i geisio gwneud yn iawn am sarhad Gronw a Blodeuwedd.

Teithiodd wŷr Gwynedd i Fur y Castell, ond clywodd Blodeuwedd eu bod ar eu ffordd a bu iddi hi a’i morynion ddianc tua’r mynydd, trwy Afon Cynfael, i’r llys ar y mynydd. Roedd ar y merched gymaint o ofn nad oedden nhw’n medru edrych ymlaen: roedden nhw’n edrych yn ôl, tros eu hysgwydd, bob amser. Disgynodd y cwbl ohonynt i Lyn Morynion, fel y’i gelwid byth ers hynny, ar wahân i Flodeuwedd.

Trodd Gwydion, Blodeuwedd yn dylluan am ei sarhad. Ni châi ddangos ei hwyneb yng ngolau’r dydd fyth eto. Ffodd Gronw Pebr i Benllyn a gofynnodd os fyddai Lleu yn cymryd aur, arian neu dir am y sarhad yn ei erbyn. Gwrthododd Lleu a mynnai gael taro Gronw â gwaywffon, yn y fan lle tarawyd Lleu.

Gofynnodd Gronw wrth ei wŷr os fyddai un ohonynt yn fodlon cymryd y waywffon yn ei le. Gwrthododd pob un ac o’r herwydd, gelwir nhw’n un o’r Tair Gosgordd Anffyddlon.

Gofynnodd Gronw os câi ddefnyddio carreg o lan Afon Cynfael er mwyn amddiffyn ei hun rhag y waywffon. Caniataodd Lleu hynny, ond pan darawodd y waywffon, aeth drwy’r garreg a thrwy gorff Gronw, a thorrodd ei asgwrn cefn. Roedd Gronw wedi’i ladd. Gwelir y garreg hon â thwll ynddi ar lan Afon Cynfael, a gelwir hi’n ‘Llech Gronw’.

Enillodd Lleu Llaw Gyffes ei diroedd yn ôl a bu’n arweinydd llwyddiannus a llewyrchus. Yn y diwedd, daeth yn arglwydd Gwynedd. Ac felly y terfyna’r gainc hon o’r Mabinogi.   

Cymeriadau Anhygoel Eryri
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk