
Yn y G16, roedd criw o ladron pen ffordd a herwyr yn crwydro ardal Dinas Mawddwy, a chawsant eu hadnabod fel ‘Gwylliaid Cochion Mawddwy’ neu ‘Gwylliaid y Dugoed’. Maen nhw’n dweud mai dihirod cymdeithas oedd y Gwylliaid, a ddaeth i ardal Dinas Mawddwy ar ôl cael eu hysgymuno o’u hardal eu hunain. Credai Thomas Pennant mai gwehilion Rhyfel Cartref Lloegr rhwng teuluoedd Efrog a Chaerhirfryn oedd y Gwylliaid, a orfodwyd, yn sgîl yr heddwch rhwng y ddau deulu, i fudo i ardal arall ar gyfer parhau â’u ffordd o fyw anwaraidd.
Roedd trigiolion lleol yn ofni’r Gwylliaid yn fawr iawn a phryd bynnag y byddent yn teithio oddi cartref, byddent yn cario arfau gyda nhw. Byddai rhai yn cuddio pladur neu gyllell finiog yn simdde eu cartrefi, rhag ofn y byddai un o’r Gwylliaid yn ceisio dod i fewn i’r tŷ drwy’r simdde.
Roedd gan y Gwylliaid eu trefn a’u defodau eu hunain, gydag un person yn eu harwain. Cynyddodd ymosodiadau’r Gwylliaid i’r fath raddau, y penderfynodd yr awdurdodau bod rhaid gweithredu. Apwyntiwyd Syr John Wynn ab Meredydd o Wydir a’r Barwn Lewis Owain i gasglu dau fyddin o wŷr arfog i geisio trechu’r Gwylliaid. Un noson Nadolig, llwyddasant i ddal tua chant o’r Gwylliaid Cochion. Crogwyd rhai ohonynt a chafodd eraill eu gyrru o’r ardal am byth. Erfynodd dau frawd a ddedfrydwyd i farwolaeth, am bardwn gan y Barwn Owain, ond fe’u gwrthodwyd, gan gynddeiriogi’r Gwylliaid. Roedden nhw’n benderfynol o gael dial arno, felly un noson, wrth i’r Barwn Owain ddychwelyd o’r brawdlys yn Sir Drefaldwyn, gosododd y Gwylliaid drapiau ar y ffordd a phledwyd saethau ato ef a’i gwmni. Daethpwyd o hyd i’w gorff gyda thri deg o saethau yn glynu ynddo.
Llofruddio’r Barwn Owain achosodd gwymp y Gwylliaid Cochion ac yn sgîl y llofruddio, gweinyddiwyd holl nerth y gyfraith yn erbyn y Gwylliaid. Ceir traddodiad sy’n honni bod pob dyn rhwng wyth a phedwar ugain oed wedi’i grogi a bod Gwylliaid eraill wedi’u halltudio i ardaloedd a gwledydd eraill. Ni chafwyd erioed sir lle’r oedd cyfraith a threfn mor gryf a’r bobl mor rinweddol ag yn Sir Feirionnydd wedi hynny.

