
Cantref Gwaelod oedd y darn anferthol o dir yng ngorllewin Cymru a foddwyd, a sydd bellach yn gorwedd dan donnau Bae Ceredigion. Brenin y cantref yn y cyfnod hwn oedd Gwyddno Garanhir. Roedd y cantref yn dir ffrwythlon iawn a’r trigolion yn mwynhau gwledda ar gynnyrch y tir yn fawr iawn. Un anfantais a oedd yn perthyn i Gantref Gwaelod oedd bod y tir mor isel nes bod angen codi morglawdd rhwng Cantref Gwaelod a’r môr, fel na châi ei orlifo. Roedd nifer o ddorau yn y morglawdd ger aberoedd yr afonydd ac roedd gwaith agor a chau’r dorau yn hynod bwysig, gan fod dyfodol y cantref yn ddibynol arno.
Ceidwad y dorau yng nghyfnod Gwyddno oedd y meddwyn, Seithennyn ab Seithyn Seidi – gŵr nad oedd yn addas ar gyfer y swydd o gwbl: cafodd ei adnabod fel un o dri o “Garnfeddwon Ynys Prydain”.
Un noson, cafwyd gwledd ardderchog yng Nghantref Gwaelod a bu Seithennyn yn mwynhau ei hun cystal â phawb arall yn hwyl a rhialtwch y wledd. Bu’n yfed y gwinoedd a’r medd, ac yn ei feddwdod, anghofiodd ei ddyletswydd i gau’r dorau cyn y nos.
Llifodd ddŵr y môr drwy’r dorau – dinistriwyd y llysdyfiant, cartrefi’r trigolion a boddwyd eu hanifeiliaid. Bu rhai o drigolion Cantref Gwaelod yn ddigon ffodus i fedru ffoi, i Feirionnydd, Llŷn a Cheredigion, ond boddwyd mwyafrif llethol y trigolion.
Goroesodd Gwyddno y drychineb, ond drannoeth, cafodd ei ddigalonni’n fawr gan yr olygfa dros ei dywysogaeth:
“Ochenaid Gwyddno Garanhir
Pan droes y don dros ei dir”.
Maen nhw’n dweud os gwrandewch chi’n astud iawn ar y traeth yn Aberdyfi, eich bod yn medru clywed clychau Cantre’r Gwaelod yn canu dan y dŵr. Ydych chi wedi’u clywed erioed?
