
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Bwrlwm Eryri 2008-9
Cliciwch yma i weld enillwyr y Gystadleuaeth Ffotograffiaeth.
Celf Eden ‘09
Cynhaliwyd gŵyl gelf newydd sbon, Celf Eden, ym Mhlas Tan y Bwlch ym mis Mehefin 2009. Roedd hwn yn ddigwyddiad newydd i uno artistiaid, ieithoedd lleiafrifol a diwylliant ac yn gyfle unigryw i ymateb i naws, ysbryd ac amgylchedd Eryri trwy ystod o gyfryngau celfyddydol, a drefnwyd gan Rhian Haf, Shari Llewelyn ac Edward Elias. Ysbrydoliwyd Celf Eden gan wythnos gelfyddydol ryngwladol, Arteden, yn Lonjer, yn ardal Slofeniadd yr Eidal, sydd wedi denu artistiaid o Gymru a chyfandir Ewrop ers ei sefydlu yn 2003.
Canolbwynt Celf Eden oedd 8 artist preswyl yn creu gwaith newydd ym Mhlas Tan y Bwlch, a chynhaliwyd ystod o weithgareddau yn y gymuned yng nghwmni artistiaid, beirdd, storïwyr a cherddorion, er mwyn ychwanegu at ysbryd yr ŵyl.
Cyfranodd Fwrlwm Eryri at yr ŵyl trwy drefnu cyfres o weithgareddau celf gymunedol gyda’r artist Tim Pugh, y rapiwr a’r bit-bocsiwr Ed Holden, y prifardd Ifor ap Glyn a’r storïwraig Cath Aran, gyda nifer o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol – gan gynnwys grwpiau o ddysgwyr Cymraeg, Y Felin Sgwrsio a Datod Tafod, Grŵp Gwylio Natur Waunfawr a gweithwyr Antur Waunfawr.
Gweithdai Celf Amgylcheddol
Mae’r artist amgylcheddol, Tim Pugh, yn cael ei ysbrydoli gan siapiau a gwaeadau byd natur a bydd yn ymgorffori’r rhain yn ei waith celf. Bydd yn defnyddio deunyddiau megis dail, blodau, brigau, gwair, cerrig, cregyn ac eira i greu gosodiadau celf mewn cynefinoedd naturiol – mewn coedwig, ar draeth neu ar wair.
Bu Tim Pugh yn artist preswyl ym Mhlas Tan y Bwlch ym mis Tachwedd 2009, a daeth saith ysgol gynradd leol i’r Plas i weld Tim yn gweithio ac i gymryd rhan yn ei weithdai.
Gweithdai Ancient Arts
Croesawyd pymtheg o fyfyrwyr o’r ail flwyddyn ar gwrs B.Add. Prifysgol Bangor i Blas Tan y Bwlch ar Dachwedd 12fed, i gymryd rhan mewn gweithdy gan gwmni Ancient Arts, sydd wedi’u lleoli yn Rowen, Conwy. Mae’r cwmni yn arbenigo mewn Ailgreu ac Arbrofi Archaeolegol a chafodd y myfyrwyr gyfle i greu morthwylion a chyllyll cynhanesyddol, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol: cerrig fflint, edafedd ywen a darnau o bren ac i wylio arddangosfa o’r broses goginio cynhanesyddol. Hyderwn y bydd hyfforddi darpar athrawon gyda’r sgiliau hyn yn eu hannog i gyflwyno elfennau o dreftadaeth hanesyddol i brofiad addysgol disgyblion ysgol.