
Un o brif swyddogaethau'r Adran Archeoleg yw cynnal a chadw rhestr o safleoedd hanesyddol yn y Parc Cenedlaethol, sy'n darparu gwybodaeth hanfodol wrth fonitro datblygiadau mewn rheolaeth a chadwraeth yn yr ardal.
Er mwyn cadw cofnodion manwl mae rhai safleoedd wedi'u cloddio, e.e. Crawcwellt, Trawsfynydd; Tomen y Mur, Trawsfynydd a Bryn y Castell, Ffestiniog.
Mae staff hefyd yn darlithio i grwpiau lleol a rhai sy'n ymweld â'r ardal, ac mewn cynhadleddau gartref a thramor.
