
Am y Llyfr
Casgliad o luniau a geir yn y gyfrol hon, y rhai cynharaf yn dyddio o'r 1860'au ac mae'r nodiadau a'r sylwadau sydd yn cyd-fynd â nhw yn adlewyrchu gwybodaeth eang yr awdur a dyfodd o gof plentyn a diddordeb byw yn y dref a'i phobl.
Am yr Awdur
Ganed Merfyn Wyn Tomos yn Nolgellau. Mae ei deulu yn hanu o'r ardal ac yma derbyniodd ei addysg gynnar. Archifydd yw yn ol ei alwedigaeth, ac yn ddigon priodol, ef sydd yn gyfrifol am reoli Archifdy Meirionydd yn Nolgellau.
Am Menter Treftadaeth Treflun Dolgellau
Cynllun grant yw'r fenter yma, wedi ei chyllido o Gronfa Treftadaeth y Loteri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cadw a Chyngor Gwynedd mewn partneriaeth â chyrff a mudiadau lleol. Ei phrif amcan yw helpu'r gymuned i adfywio'r Ardal Gadwraeth trwy atgyweirio ac adfer cymeriad adeiladau hanesyddol a'u lleoliad. Mae amcanion y fenter hefyd yn cynnwys cynyddu dealltwriaeth o'r dreftadaeth hanesyddol a chryfhau ymrwymiad y gymuned leol ac ymwelwyr iddi.
Ble mae'r llyfr ar gael?
Mae'r llyfr ar gael o:
• Canolfan Wybodaeth Dolgellau.Yn dilyn llwyddiant y llyfr a'r diddordeb sydd wedi bod ymysg y cyhoedd mae'r llyfr wedi cael ei ail-argraffu.