
Mynyddoedd, llynnoedd, coetiroedd, dyffrynnoedd.....dyna'r hyn y mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ei olygu i'r rhan fwyaf o bobl, ond mae'r ardal hon yng ngogledd orllewin Cymru yn gallu cynnig llawer mwy.
Mae hanes a diwylliant o'ch cwmpas ym mhob man ac mae'r iaith Gymraeg yn famiaith i 58.6% o'r boblogaeth. Rydych yn siwr o weld a chlywed yr iaith Gymraeg yn ystod eich ymweliad.

Mae'r tirlun yn adrodd hanes yr ardal o siambrau claddu Oes y Cerrig, ceiri Rhufeinig, eglwysi, cestyll, chwareli llechi a gweithfeydd diwydiannol eraill.
Mae'r ardal yn adnabyddus yn fyd-eang am ei ddaeareg. Yn y 19eg ganrif fe gynhaliwyd yr ymchwiliadau i greigiau hynaf y byd a hynny yn Eryri.
Am ddysgu mwy? Cliciwch ar y cysylltiadau ar ochr chwith rhan uchaf y dudalen.
Ydych chi'n fyfyriwr neu'n athro/athrawes?
Cliciwch ar Gwasanaethau Addysg er mwyn cael gwybodaeth eang am yr ardal.
Bwrlwm Eryri
Menter a sefydlwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw Bwrlwm Eryri, ac fe’i lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn Awst 2005. Nod y fenter yw gwarchod a hyrwyddo’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sydd gennym o fewn ffiniau’r Parc ac mewn ardaloedd cyfagos. Bwriedir gwneud hynny drwy gydweithio â chymunedau a chymdeithasau yn ogystal â’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat, er mwyn casglu, cofnodi, gwarchod a hyrwyddo ein treftadaeth i’r dyfodol.
Mae treftadaeth yn aml iawn yn rhywbeth nad ydym yn ymwybodol ohono, yn rhywbeth sy’n aros i ni ei ddarganfod a chael ein gwefreiddio gan ymdeimlad o berthyn i hen hen ddiwylliant neu ffordd o fyw. Nid rhywbeth y gellir ei ddysgu wrth eistedd mewn dosbarth neu ddarlith yw treftadaeth ddiwylliannol, ond rhywbeth i’w fyw a’i deimlo, a gobeithio, drwy weithgareddau Bwrlwm Eryri, y gellir annog pobl i fyw ac i deimlo ac i ddarganfod drostynt eu hunain beth o’n hetifeddiaeth.


